Mae’r fasnach draws-Iwerydd mewn caethweision yn gysgod ar ein hanes, gydag o leiaf 12 miliwn o bobl wedi’u cymryd dros môr yr Iwerydd yn gaethweision. I nodi 200 mlynedd ers pasio’r Ddeddf i ddiddymu’r fasnach, daeth arddangosfa newydd sy’n procio’r meddwl i Amgueddfa Wrecsam, yn dwyn y teitl Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth. Rhydd gyfle i ymwelwyr edrych ar rôl Cymru yn y fasnach mewn caethweision a’r frwydr yn ei herbyn.
Roedd yr arddangosfa yn adrodd hanes y berthynas rhwng Cymru a chaethwasiaeth, yn dechrau dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, ar hyd erchylltra’r llwybrau caethwasiaeth trawsiwerydd, i’r byd modern. Dyma fersiwn deithiol y brif arddangosfa, a arddangoswyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn 2007.
Mae’r wefan hon yn rhoi detholiad o adnoddau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r Fasnach Gaethion, hawliau dynol a’r ymdrech i gael cydraddoldeb dros y canrifoedd.