A H Dodd
Ganed
Arthur Herbert Dodd yn Wrecsam yn 1891. Ei dad oedd Charles Dodd meistr
ysgol lleol. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Wrecsam ac astudiodd hanes
yn New College, Rhydychen. Fe'i benodwyd yn ddarlithydd hanes ym Mangor
yn 1919 a daeth yn athro hanes ym Mhrifysgol Bangor yn 1930 lle arhosodd
hyd nes iddo ymddeol yn 1958. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yng Nghymru
oes y Tuduriaid a'r Stiwartiaid. Cyhoeddodd nifer fawr o erthyglau a llyfrau,
yn enwedig The Industrial Revolution in North Wales (1933) a Life in Wales
(1972).
Roedd yn ymroddedig i'r symudiad addysg i oedolion a ddechreuodd yn Wrecsam
yn 1911 ac roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Addysg y Gweithwyr am lawer o flynyddoedd.
Roedd yn rhoi darlithoedd yn rheolaidd i ddosbarth allanol tan ychydig
fisoedd cyn ei farwolaeth. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Hanesyddol
Sir Ddinbych a golygodd eu trafodion am sawl blwyddyn ac yn 1955 daeth
yn Llywydd i'r Gymdeithas. Yn 1952, ffurfiwyd pwyllgor i gynhyrchu hanes
Wrecsam. Penodwyd A.H. Dodd yn olygydd y gwaith. Rhoddwyd darn o'r hanes
i gyfranogwyr lleol. Yr amcan oedd diweddaru gwaith Palmer a hefyd rhoi
golwg o hanes y gymuned yn ei chyfanrwydd. Cyhoeddwyd y llyfr i gyd-fynd
â Dathliadau Canmlwyddiant y Fwrdeistref yn 1957. Gwnaed ef yn rhyddfreiniwr
o Fwrdeistref Wrecsam yn 1963. Bu farw Dodd ar 21 Mai 1975 ym Mangor.
Dychwelyd i'r mynegai
|