Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Pobl Enwog

 
Llun o Elihu Yale

Llun: Yale Center for British Art

Elihu Yale

Ganwyd Elihu Yale ar 5 Ebrill 1649 yn Boston, Massachusetts. Ef oedd ail fab David Yale, masnachwr ffyniannus yn Boston, a'i wraig Ursula. Mae gan y teulu Yale dras hir yn yr ardal sy'n ymestyn yn ôl i'r 15fed ganrif pan ddaethant i Blas yn Iâl, Llanarmon yn Iâl a mabwysiadu'r cyfenw Yale. Dechreuodd eu cysylltiad â Wrecsam yn yr 16eg ganrif hwyr pan brynodd hen daid Elihu, Dr David Yale ystad Plas Grono, sydd nawr yn rhan o ystad Erddig.

Priododd mab David Yale, Thomas, Anne Lloyd, merch George Lloyd, Esgob Caer. Cawsant bedwar o blant ond bu farw Thomas yn ifanc yn 1619. Priododd Anne Theophilus Eaton ar ôl hyn, piwritan caeth. I ddianc rhag erledigaeth, hwyliodd Theophilus Eaton a'i llysblant ac eraill i Boston, Massachusetts. Prynont dir o'r Indiaid ac enwont y lle yn New Haven. Theophilus oedd Llywodraethwr cyntaf y wladfa a chychwynnodd drefn piwritanaidd. Cafodd ei lysfab, David Yale, y drefn yn rhy gaeth a symudodd i Boston yn 1641. Daeth yn fasnachwr a ganwyd ei blant, gan gynnwys Elihu, yno.

Unwaith eto, cafodd David y gwahaniaethu yn erbyn pobl nad oeddynt yn biwritaniaid yn rhy gaeth a dychwelodd i Blas Grono, Wrecsam. Dilynodd y teulu yn y flwyddyn ddilynol. Ni arhosodd y teulu yn Wrecsam ond symudont i Lundain a dilynodd David yrfa fel masnachwr.

Cafodd Elihu addysg glasurol ond dewisodd i ymuno â chwmni ei dad. Aeth i weithio gyda'r East India Company fel clerc yn hwyrach. Yn y cwmni, teithiodd i'r India yn 1671 lle arhosodd am 27 mlynedd. Gwnaeth cyfraniad sylweddol i ddatblygiad y cwmni. Yn 1684, penodwyd ef yn Llywodraethwr Gweithredol Fort St George a'i gadarnhau yn y swydd 3 blynedd yn hwyrach. Roedd Fort St George yn lle masnachu pwysig ac yn ganolfan diplomyddiaeth. Roedd yn swydd anodd. Cafodd ei ddisodli fel Llywodraethwr yn 1692 gan bleidiau gwrthwynebol.

Yn 1680 priododd wraig weddw, Catherine Hynmer, â 4 plentyn. Daeth ei wraig â chyfoeth iddo. Cawsant 4 plentyn, 3 merch a mab a fu farw yn fuan ar ôl ei eni. Dychwelodd ei wraig i'r wlad hon yn 1689 a dyna oedd diwedd y briodas mewn gwirionedd. Dychwelodd Elihu i'r wlad hon yn 1699. Treuliodd 22 flynedd olaf ei fywyd rhwng Plas Grono a'i gartref yn Llundain. Bu farw yn Llundain ond mae wedi ei gladdu yn Eglwys San Silyn.

Mae'r arysgrif ar ei fedd a ysgrifennodd ei hun yn darllen:-

Born in America, in Europe bred
In Africa travell'd and in Asia wed
Where long he liv'd and thriv'd; In London dead
Much good, some ill, he did; so hope all's even
And that his soul thro' mercy's gone to Heaven
You that survive and read this tale, take card
For this most certain exit to prepare
where blest in peace, the actions of the just
Smell sweet and blossom in silent dust.

Roedd yn gymwynaswr i Prifysgol Iâl , Connecticut ac felly enwyd y prifysgol ar ei ôl. Adeiladwyd copi o dwr eglwys Wrecsam ar Gampws Iâl.

Dychwelyd i'r mynegai

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint