Prosiect pwysig newydd sy'n ymdrin â threftadaeth glodfawr chwaraeon Cymru yw Dilyn y Fflam, o dan arweiniad Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam.

"Diffinnir ein cenedl gan chwaraeon. Rydym yn genedl fach gyda chyflawniadau mawr a hynny mewn ystod o chwaraeon rhyngwladol. Daeth dydd pan oedd mawr y rhai bychain." - Lynn Davies, CBE
Fel un rhan o bob dwy fil o boblogaeth y byd, mae hanes campau Cymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn anghyson â'n safle yn y byd sy'n ymddangos ar yr olwg gyntaf efallai, yn ddigon di-nod. Ond nid ym maes paffio'n unig y mae Cymru'n arwain y ffordd!
Bydd Dilyn y Fflam yn defnyddio'r cyfnod cyn Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 fel y prif ysgogiad i edrych ar hanes ysbrydolgar Cymry a gymerodd rhan yn y Gemau ac yn dathlu hynny. Wrth wraidd y prosiect bydd rhaglen bwysig o gyfweliadau fideo o'r enw Hanes Llafar lle y bydd cyfweliadau gyda'r athletwyr sy'n dal i fyw a / neu eu perthnasau, cyfeillion a chefnogwyr i greu hanes byw newydd pwysig ar gyfraniad y Cymry yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd hanes y bobl yn sicrhau y caiff ein stori ei hadrodd drwy brofiadau'r rheiny a gymerodd ran go iawn, ar ba lefel bynnag oedd eu rhan yn y gemau Olympaidd.
Dilyn y Fflam (DyFf) - Fideo

Dilyn y Fflam (DyFf) - Oriel Gwobrau
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cliciwch ar lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu'r bysellau saeth Ddr a Chwith ar eich bysellfwrdd, I weld lluniau eraill.
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Cliciwch ar lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu'r bysellau saeth Ddr a Chwith ar eich bysellfwrdd, I weld lluniau eraill.
Ucheldre, Caergybi

Venue Cymru, Llandudno
Cliciwch ar lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu'r bysellau saeth Ddr a Chwith ar eich bysellfwrdd, I weld lluniau eraill.
Amserlen y Brif Arddangosfa
Sioe A
- 12 Mehefin-10 Gorffennaf 2011-Neuadd Brangwyn, Abertawe
- 13-29 Awst 2011- Venue Cymru, Llandudno
- 15 Hydref 2011- Ionawr 2012- Canolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr
- 20 Chwefror–16 Mawrth 2012 - Coleg Castell-nedd Port Talbot, Campws Llandarsi
- 31 Mawrth–16 Mehefin 2012 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Sioe B
- 23 Gorffennaf–7 Hydref 2011 - Canolfan Ucheldre, Caergybi
- 30 Mawrth–16 Mehefin 2012 - Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
- 27 Mehefin-15 Medi 2012 - Amgueddfa Sir a Bwrdeistref Wrecsam
Hefyd er Medi 2008 buom yn mynd â dwy arddangosfa fach ar daith gyda rhaglen lawn o weithdai addysgol i ennyn diddordeb yn y prosiect. Bydd y rhain yn parhau nes canol 2012.
Awn ag Arddangosfa Gymunedol hefyd ar daith i leoliadau llai Cymru o Fedi 2011.
Sut i gymryd rhan
Os ydych wedi bod yn gysylltiedig o'r blaen, waeth pa lefel neu allu (fel cystadleuydd, aelod teuluol, swyddog neu wyliwr) gyda'r gemau Olympaidd neu Baralympaidd - gan gynnwys Gemau Beijing 2008 - neu eich bod am fod yn rhan o'r gemau yn y dyfodol, mae'r tîm Dilyn y Fflam am glywed gennych chi.
Yn benodol rydym yn chwilio am bobl sy'n fodlon siarad am eu profiadau ar ffilm. I gael rhagor o fanylion am y cyfweliadau hyn, neu i gael gwybod sut y gallwch chi neu eich lleoliad, ysgol neu sefydliad gymryd rhan yn y prosiect yn gyffredinol, cysylltwch â:
Phil Cope
Cydlynydd Prosiect
Dilyn y Fflam
Ffôn: 01656 870180 / 07966 251756
Ebost: phil.cope@talktalk.net
Rhagor o fanylion
Gweler y daflen atodedig am ragor o wybodaeth
Dilyn y Fflam - Fersiwn PDF 454Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.