Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Olion Traed - Rhyfeloedd Cartref

 

Gwaethygodd rhaniadau cyfnod y Tuduriaid yn y 17eg ganrif.  Roedd y Goron a’r Senedd yn methu cytuno ar drethi, crefydd ac ymddygiad y brenin.  Yn lleol, cyhoeddodd Syr Thomas Myddelton, perchennog Castell y Waun gefnogaeth i’r Senedd.  Arhosodd y boneddigion lleol o Gymru yn ffyddlon i’r brenin.


Cofgolofn i Syr Thomas Myddelton, cadfridog seneddol yn ystod y Rhyfel Cartref, Edlwys y Plwyf, Y Waun.
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam a Ficer yr Waun

Yn 1642, rhoddodd Siarl I araith o flaen torfeydd brwdfrydig yn Wrecsam, ond roedd lluoedd y Senedd ar draws y Ddyfrdwy yn sir Gaer.  Gwelodd Holt olygfeydd cyson o ysgarmesau ac ymosodiadau annisgwyl yn ystod y Rhyfel Cartref.  Roedd y ddwy ochr yn gwybod mai Pont Holt oedd y fynedfa i ogledd Cymru.  Yn 1646, pan oresgynnwyd Caer, llwyddodd lluoedd y Senedd i gael gafael ar ogledd Cymru.  Gwrthsefyllodd castell Holt yr ymosodiadau tan ddechrau 1647.


Cofgolofn i Syr Rhichard Trevor o Drefalun, 1638, Eglwys y Plwyf, Gresffordd
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam a'r Ficer Gresffordd

Roedd bywyd yn ystod y Weriniaeth yn llym iawn.  Daeth Morgan Llwyd, pregethwr radical, yn ficer i Wrecsam ac o ganlyniad i’r Comisiwn dros Ledaeniad yr Efengyl yng Nghymru trodd y dref yn ganolfan Piwritaniaeth.  Cyn bo hir roedd y boneddigion lleol yn cynllwynio i weld y frenhiniaeth yn dychwelyd ac roedd Syr Thomas Myddelton yn cefnogi hyn.

Cymerodd y rhaniadau crefyddol fwy o amser i wella.  Ar ddechrau’r 18fed ganrif, roedd nifer o Jacobiaid, cefnogwyr y Stiwardiaid alltud, yn y dref.  Roedd gan y Jacobiaid glwb cyfrinachol wedi’i leoli yn nhafarn yr Eryrod, sef gwesty’r Wynnstay Arms erbyn hyn.  Yno, byddent yn annog y werin leol i ymosod ar fannau cyfarfod yr anghydffurfwyr.

 

October 20th 1715 – The king's Coronation Day. The Bells rung, but at night great Riots and Disorders committed. The Dissenters' bonfires put out, the Meeting Houses threatened, and the Mob beat at the door. Treasonable songs sung about the town.

- John Kenrick, dyddiadurwr a gweinidog Anghydffurfiaeth yn Wrecsam

 

Rhyfeloedd Cartref

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Olion Traed - Rhyfeloedd Cartref - fformat PDF 1Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

 
English
 

Cyswllt i

Taith Trwy Ein Gorffennol
Cynhanes
Goresgyniad Ymerodrol
Yr Oesoedd Tywyll
Y Gororau
Yr Oesoedd Canol
Undeb a Chyfeddiant
Rhyfeloedd Cartref
Cyfoeth a Grym
Man Masnachu
Morthwyl a Gefel
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint