|
Pa mor dywyll oedd yr Oesoedd Tywyll (400 – 1000OC)? Mae Bede, croniclydd o’r 8fed ganrif, yn cofnodi brwydr fawr ger Caer rhwng y Cymry a phobl Northumbria oddeutu 615OC. Enillodd Northumbria'r frwydr ac fe laddasant fynachod Bangor Is-coed a dinistrio’r fynachlog o’r 6ed ganrif.

Y brenin, delwedd o Gyfreithiau Hywel Dda, Peniarth Ms.28.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Roedd y frwydr hon yn rhan o frwydr hir rhwng y Cymry a’r Sacsoniaid i ennill tiriogaeth yn y rhan hon o Gymru. Roedd y Sacsoniaid yn arglwyddiaethu gogledd ddwyrain Cymru yn ystod y 8fed - 10fed ganrif. Rhywbryd yn ystod y cyfnod hwnnw, tyfodd anheddiad ar y tir gwastad uwchben dolydd Afon Gwenfro. Mae enw gwreiddiol yr anheddiad, a allai fod yn Wryghtelsham, Wrechessham neu Wristleham, yn tarddu o’r hen enw Saesneg am ddol afon Wryhtel.

Stiward y Brenin, delwedd o Gyfreithiau Hywel Dda, Peniarth Ms.28.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae’r ddwy gofeb, Clawdd Offa a Chlawdd Wat, yn dyddio o’r cyfnod hwn. Roedd y gwaith o’u hadeiladu yn gamp beirianyddol fawr - mae Clawdd Wat yn 28 milltir o hyd, mae ei ffos yn 6 metr o led a 2 ½ metr o ddyfnder ac mae’r clawdd yn 2 fetr o uchder ac mae’n bosibl bod palisâd neu wal bren ar ei ben. Fe’i adeiladwyd fel amddiffynfa ac mae’n dilyn ffin strategol. Roedd Clawdd Offa yn nodi ffin wleidyddol, a gytunwyd neu a orfodwyd gan Offa, brenin Mersia o’r 8fed ganrif.
Ni lwyddodd y cloddiau i sefydlogi’r ffin. Symudodd y Sacsoniaid ymlaen ymhellach i’r gorllewin yn y 9fed ganrif, ond fe ailgoncrodd y Cymry'r ardal hon yn ystod yr 11eg ganrif.
Stauell Gynddylan ys tywyll heno
Heb dan, heb wey
Wylaf wers; tawaf wedy.
- Ystafell Cynddylan, cerdd Gymraeg gynnar am effeithiau brwydr yn erbyn y Sacsoniaid.
Rex nomine Offa, qui vallum
magnum inter Britannium atque Merciam de mari usque ad mare fieri imperavit.
- Asser, Life of Alfred, 893
Yr Oesoedd Tywyll
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Olion Traed - Yr Oesoedd Tywyll - fformat PDF 1.2Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|