|
Roedd diwydiannau traddodiadol Wrecsam - bragu, y tanerdai a’r fasnach wlân - i gyd ynghlwm wrth ffermio. Ar ddiwedd y 18fed ganrif agorodd bragdy masnachol cyntaf y dref a sefydlodd John Peers ffatri croen defaid, a alwyd yn ddiweddarach yn weithfeydd Lledr Cambria.
Sole and ffree liberty to dig and sinke for, get and take up Coales upon a certain Common known by the name of Coedpoeth.
- Cytundeb rhwng Syr Thomas Grosvenor a Roger Mostyn o Frymbo, 29 Medi 1683
I’r gorllewin o Wrecsam, roedd bwrdeiswyr Holt yn cloddio glo o’r 15fed ganrif. Yn ystod yr 17eg ganrif trodd teuluoedd y Grosvenor a’r Myddelton at fwynau - haearn a phlwm.

Tocyn John Wilkinson
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam
Ye workers of Bersham and Brymbo, draw near,
Sit down, take your pipes and my song you shall hear.
Fill up and without any further parade,
John Wilkinson, boys, that supporter of trade!
- Rhigwm lleol
John Wilkinson oedd arloeswr y Chwyldro Diwydiannol yn Sir Ddinbych. Roedd wedi’i leoli yng ngweithfeydd haearn y Bers, ac yn y 1770au fe berffeithiodd y gwaith o gynhyrchu canonau cywir a sylindrau gan ddefnyddio’r peiriannau tyllu a ddyfeisiodd. O ganlyniad i gyfres o ryfeloedd a thrwy gynhyrchu silindrau ar gyfer injanau stêm i Boulton a Watt, daeth Wilkinson yn ŵr cyfoethog iawn.
Ni ataliwyd goruchafiaeth Wilkinson mewn diwydiant lleol gan y sgandal am y posibilrwydd o werthu arfau i Ffrainc. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am y cynlluniau i gael camlas i gysylltu Rhiwabon, y Bers a’i weithfeydd haearn ym Mrymbo â’r afon Ddyfrdwy, y Ferswy a’r Hafren. Ni chwblhawyd y gamlas, ond mae’r draphont ddŵr ym Mhontcysyllte (1805) yn dal i’n hatgoffa o uchelgeisiau diwydianwyr ei gyfnod.

Traphont Ddwr Pontcysyllte
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam
Morthwyl a Gefel
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Olion Traed - Morthwyl a Gefel - fformat PDF 1.1Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|