|
Goresgynnodd y Rhufeiniaid ogledd Cymru yn 49OC. Darostyngwyd y llwyth lleol, y Deceangli, yn gyflym. Erbyn 79OC, roedd y Rhufeiniaid wedi adeiladu caer lengol yng Nghaer ac oddi yno buont yn llywodraethu gogledd ddwyrain Cymru.

Teilsen rhagosod Rufeinig a wnaethpwyd yn y gweithfeydd teils llengol, Holt.
© Amgueddfa Brydeinig
Sefydlodd y llengfilwyr weithdy cynhyrchu teils a chrochenwaith yn Holt. Cyrhaeddodd gweithfeydd Holt frig cynhyrchiant tra'r oeddent yn cyflenwi’r 20fed Lleng rhwng 87-135OC a pharhaodd y gwaith o gynhyrchu crochenwaith ymlaen i’r 3ydd ganrif. Un o’r rhesymau pam y digwyddodd y goresgyniad Rhufeinig oedd adnoddau naturiol Prydain. Bu’r Rhufeiniaid yn cloddio am blwm ym mynydd Helygain yn Sir y Fflint ac mae’n debyg fod yr anheddiad yn Ffrith yn gysylltiedig â chloddio am blwm.

Allor Rufeinig yn cynnwys Atropes, y dduwies ffawd, a ddarganfuwyd yn Eglwys y Plwyf, Gresffordd.
© Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Mae darganfyddiad anheddiad sifiliaid ym Mhlas Coch, Wrecsam yn awgrymu fod Wrecsam yn tarddu o’r cyfnod Rhufeinig. O ddatgloddio, darganfuwyd dwy odyn sychu grawn ac olion gweithgynhyrchu crochenwaith. Mae darganfyddiadau o’r safle yn cynnwys crochenwaith o Ffrainc a cheiniogau o’r cyfnod o gwmpas 150-350OC.
Goresgyniad Ymerodrol
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Olion Traed - Goresgyniad Ymerodrol - fformat PDF 1Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|