|
Yn 1282 lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Cymru. Collodd Gymru ei hannibyniaeth a chyrhaeddodd llywodraethwyr newydd o dramor. Daeth John de Warenne yn arglwydd Bromfield ac Iâl (y tiroedd o amgylch Wrecsam) ac enillodd Roger Mortimer diroedd o amgylch y Waun.

Castell y Waun yn codi uwchlaw'r cefn gwlad cyfagos.
© Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Dangosodd y llywodraethwyr newydd eu grym trwy eu cestyll newydd yn Holt a’r Waun. Crëwyd bwrdeistrefi ganddynt ynghyd â breintiau masnachu arbennig ar gyfer newydd ddyfodiaid o Loegr yn Holt ac Owrtyn.

Cofgologn o'r oesoedd canol, Eglwys Bwyf, Y Waun
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam
Ffynnodd Wrecsam fel tref yn ystod y 14eg ganrif. Roedd diwrnod marchnad y dref ar ddydd Iau a byddai raid i bobl Bromfield ac Iâl werthu eu cynnyrch drwy’r farchnad honno.
Anogwyd mewnfudwyr hefyd. Erbyn 1391 roedd bron i hanner pobl Wrecsam yn newydd ddyfodiaid a ddenwyd gan gyfleoedd economaidd y dref. Roedd y diwydiannau gwlân a lledr yn ffynnu. Roedd digon o arian o amgylch i fardd, cellweiriwr, jyglwr, dawnsiwr a gof aur i ennill bywoliaeth yma. Yn y cyfamser, yn y Faelor, roedd gwladychwyr yn clirio’r coetiroedd ac yn adeiladu tai amffosog.

Murlun o ddechrau'r 15fed ganrif, Eglwys Blwyf, Rhiwabon
© Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Roedd y gwerinwyr lleol yn gaethweision o’r herwydd. Roeddent yn talu degwm i’r eglwys, trethi i’r arglwydd ac yn gweithio ar ei dir. Yn ôl y disgwyl, roedd y Cymry lleol yn awyddus i wasanaethu fel milwyr yn yr Alban a Ffrainc - roedd y tâl yn llawer gwell - ac yn fuan cawsant enw da am fod yn ddewr ar faes y gad.
Ar ddechrau’r 15fed ganrif, dechreuodd y bonedd Cymreig a’r gwerinwyr gefnogi gwrthryfel lleol dan arweiniad Owain Glyndŵr. Roedd y gwrthryfel yn drychinebus i Wrecsam yn economaidd ac enillodd y Saeson. Ni allai’r beirdd lleol a oedd yn blodeuo, sef Guto’r Glyn o Ddyffryn Ceiriog a Dafydd ab Edmwnd o Hanmer, guddio trychinebau’r 15fed ganrif.
There is in Wrexham
a certain
market
held on
each Thursday.
- Robert d’Eggerley, 1391
Cawn feddyglyn gwyn, a gwinau-fragod,
Cawn ffreugwrw o’r pibau,
Cawn win a chnewyllion cnau,
Cawn fil ancwynafalau.
- Moliant i Ddafydd, Abad Glyn Egwestl, Guto'r Glyn, 15fed ganrif
Owain Glyn Dŵr – Hanes yr ein Tywysog
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Owain Glyn Dwr – Hanes yr ein Tywysog - fformat PDF 4Mb 
Yr Oesoedd Canol
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Olion Traed - Yr Oesoedd Canol - fformat PDF 1.1Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|