|
Gadawodd ein rhagflaenwyr o’r Oes Efydd (2300 – 600CC) fwy o dystiolaeth o’u bywydau ar ôl: carneddau yn Nyffryn Ceiriog, crugiau yn y Faelor a dwy domen gladdu, Hillbury a Fairy Mount yng nghanol Wrecsam.
Darganfuwyd cistgladdiad (a arddangosir yn yr amgueddfa) ym Mrymbo. Yn dyddio’n ôl i tua1600CC, mae’r pot bicer a’r fflint yn dangos nad oedd ein cyndadau yn bobl ynysig. Mae casgliadau a darganfyddiadau yn Nyffryn Alun yn datgelu bod y dyffryn yn rhan o lwybr cyfathrebu pwysig, yn gysylltiedig â masnach o Iwerddon.

Casgliad Acton, a ddarganfuwyd ger Wrecsam , tua. 1875
© Amgueddfa Cymru
Mae Casgliad Acton, casgliad o balstafau (pennau bwyelli) a wnaethpwyd yn fedrus, yn dangos bod yr ardal hon yn ganolfan gwaith metel blaengar yn ystod yr Oes Efydd. Mae cynnyrch o ganolfan Parc Acton wedi’u darganfod ar draws gogledd Cymru. Mae’n rhaid bod y sgiliau gwaith metel hyn wedi dod â chyfoeth a statws.

Casgliad Yr Orsedd, a ddarganfuwyd ger Wrecsam
© Amgueddfa Cymru

Casgliad Burton, a ddarganfuwyd ger Wrecsam
© Amgueddfa Cymru

Breichled o Gasgliad Burton
© Amgueddfa Cymru

Modrwyon bylchog o Gasgliad Burton
© Amgueddfa Cymru
Gadawodd ein cyndadau o’r Oes Haearn (600CC – AC50) henebion mwy o faint ar eu holau: cyfres o fryngaerydd ar hyd y llinell o dir uchel a thir isel – Bryn Alun (ger Bradle), Y Gaer (Brynhyfryd) a’r Gardden (Rhiwabon). Roedd y bryngaerydd yn amddiffyn y llwybrau rhwng y bryniau a’r gwastadeddau. Yn yr Oes Haearn, roedd Prydain wedi’i rhannu rhwng llwythau, felly efallai bod y bryngaerydd hefyd yn nodi ffiniau’r llwythau.
Er gwaetha’r dystiolaeth, mae llawer ar ôl i’w ddarganfod am ein cynhanes.
Cynhanes
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Olion Traed - Cynhanes - fformat PDF 1.1Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|