Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Olion Traed - Man Masnachu

 

Oherwydd marchnadoedd a ffeiriau Wrecsam, daeth y dref yn ganolog yn economi gogledd Cymru.  Gwerthai gwragedd fferm ieir, wyau, menyn a llysiau ar Stryt yr Hôb, byddai’r cigyddion yn masnachu yn Stryt yr Abad, tra y byddai’r Stryt Fawr yn gartref i stondinau’r crefftwyr.


Golygfa i San Silyn o Stryt Mount
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam

Teithiai masnachwyr o Firmingham, Manceinion a Swydd Efrog i werthu eu nwyddau, yn arbennig yn ystod ffair bwysig mis Mawrth.  Adeiladwyd neuaddau marchnad pwrpasol ar ddiwedd y 18fed ganrif: Neuadd Jones ar Stryt y Syfwr ar gyfer lliain a nwyddau ffansi a Sgwâr Efrog, o dan eglwys plwyf San Silyn, ar gyfer y delwyr brethyn.

We present Thomas Baker for refusing to suffer the towne people or others to sell fish, lemons and other fruits for the comoditye of the towne and country, unless they pay extortion.

- Sesiwn o Uchel Reithgor Sir Ddinbych, 1663

 

I, John Jones, doe assign over forty boards, 17 butcher's trestles and 12 shoemakers standings.

- Memorandwm am werthiant Rhif 30 Y Stryt Fawr, Wrecsam

 

Roedd y Beast Market ar waelod Stryt Siarl, yn denu ffermwyr o bob rhan o’r gororau.  Yfai porthmyn mewn tafarndai megis The Horns Inn a’r Jolly Drovers, ar Stryt y Bont a Phen-y-Bryn.


Pont y Llianeu, Stryt y Bont, Wrecsam
Diolch i Alister Williams


Un o hen dafarndai Pen-y-Bryn, Wrecsam
© Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru

Roedd cartrefi’r bobl gyfoethog megis Bryn y Ffynnon (Lôn y Priordy), Plas Gwern (Stryt y Twtil) a The Mount (Stryt Mownt) yn golygu bod arian yn y dref.  Denai’r potensial hwn am fusnes fasnachwyr a chrefftwyr.  Ar ddechrau’r 18fed ganrif roedd dros 100 o wahanol fathau o fasnach yn Wrecsam gan gynnwys gwneuthurwyr clociau, wigiau, hetiau, bodisau, torrwyr baco a gwneuthurwyr sbectolau - y cyfan yn arwydd o’r ffaith y gallai’r trigolion fforddio moethusrwydd.


Print 18fed ganrif o Wrecsam gan Nathaniel a Samuel Buck: pen dwyreiniol Wrecsam. Gweler fersiwn mawr.
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam


Print 18fed ganrif o Wrecsam gan Nathaniel a Samuel Buck: pen gorllewinol Wrecsam. Gweler fersiwn mawr.
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam

Man Masnachu

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Olion Traed - Man Masnachu - fformat PDF 1.1Mb

Map o Wrecsam 1833

Mae'r map yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Olion Traed - Map o Wrecsam 1833 - fformat PDF 638Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

 
English
 

Cyswllt i

Taith Trwy Ein Gorffennol
Cynhanes
Goresgyniad Ymerodrol
Yr Oesoedd Tywyll
Y Gororau
Yr Oesoedd Canol
Undeb a Chyfeddiant
Rhyfeloedd Cartref
Cyfoeth a Grym
Man Masnachu
Morthwyl a Gefel
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint