|
Gadawodd y Tuduriaid eu marc ar Wrecsam. Rhoddodd Margaret Beaufort, mam Harri Tudur, nawdd i adeiladu cangell a thŵr newydd i eglwys plwyf San Silyn. Cafodd y rheolau caeth a gyflwynwyd i’r Cymry ar ôl gwrthryfel Glyndŵr eu diddymu gan Harri VII ac fe gwtogwyd ar arglwyddi’r gororau.

Ffenestr wydr lliw, tua1500, Eglwys y Plwyf Gresffordd.
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam a'r Ficer Gresffordd

Ffenestr wydr lliw, tua 1500, Eglwys y Plwyf Gresffordd
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam a'r Ficer Gresffordd

Ffenestr wydr lliw, tua 1500, Eglwys y Plwyf Gresffordd
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam a'r Ficer Gresffordd
O ganlyniad i ‘Ddeddfau Uno’ Harri VIII, amsugnwyd arglwyddiaethau Gororau Cymru i frenhiniaeth Lloegr. Gallai’r Cymry lleol unwaith eto gael swyddi swyddogol, cyn belled a’u bod yn siarad Saesneg. Rhoddodd aelodau uchelgeisiol o’r Cymry bonedd eu teyrngarwch i’r Goron. Cyfrannodd rhai boneddigion lleol i’r gymuned: cyfieithodd William Myddelton y salmau i’r Gymraeg, ac ar ddechrau’r 17eg ganrif sefydlodd Valentine Broughton a Thomas Nevitt ysgolion gramadeg Wrecsam a Rhiwabon yn y drefn honno.
Cafodd bywydau pob dydd eu trawsffurfio gan y diwygiad wrth i’r Goron orfodi crefydd newydd ar ei phobl. Yn ystod teyrnasiad Harri VIII, diddymwyd abaty Glyn y Groes ac fe werthwyd ei ystadau. Roedd erlyniad crefyddol yn bolisi gwladol o dan Mari Tudur ac Elizabeth I. Yn 1584 carcharwyd Richard Gwyn, a drodd at y grefydd Babyddol, yn y Siambr Ddu ger Neuadd y Dref yn Wrecsam. Aethpwyd ag ef i’r Beast Market gerllaw i’w grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru oherwydd ei ffydd grefyddol.

Adluniad o rifau 5-7, Allt y Dref, Wrecsam, James Negus.
© Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Wrexham, treuly caullid Wrightelsham, is the only market towne of Walsch Maylor. There be sum merchauntes and good bokeler makers. There commith a broke caullid Wenbro through the toune.
- John Leland, c1533-43
Rayse yearely for ever the some of sixe poundes thirteen shillings four pence for the education of youthe in good erudicion and learnynge in the towne of Wrixham.
- Ewyllys Valentine Broughton, 1603.
Undeb a Chyfeddiant
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Olion Traed - Undeb a Chyfeddiant - fformat PDF 452Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|