Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Olion Traed - Cyfoeth a Grym

 

Teulu’r Williams Wynn o Wynnstay, Rhiwabon a theulu’r Myddelton o gastell y Waun oedd prif froceriaid yr ardal yn y 18fed ganrif.  Roeddent yn meddiannu’r holl swyddi swyddogol ac yn berchen ar ystadau anferth.  Roeddent yn cystadlu, yn aml yn annheg, i gynrychioli’r sir a’r fwrdeistref yn y Senedd.  Yn 1741 carcharwyd William Myddelton am drefnu bod perthynas iddo yn ennill pleidlais trwy dwyllo.


Syr Watkin Williams Wynn, 1692- 1749.
© Amgueddfa Cymru

Roedd y Syr Watkin Williams Wynn cyntaf yn Jacobiad.  Roedd yn poenydio’r anghydffurfwyr lleol, ac fe garcharodd un pregethwr yn ei gytiau cŵn yn Wynnstay hyd yn oed.  Yn wahanol i’r Syr Watkin cyntaf, roedd yr ail yn ŵr y celfyddydau.  Roedd yn gyfaill ac yn noddwr i bobl megis David Garrick (actor), Robert Adam (pensaer) a Syr Joshua Reynolds (peintiwr lluniau).  Roedd Syr Watkin yn gwybod sut i fyw yn foethus.  Yn 1770 roedd ei barti pen-blwydd yn 21ain yn cynnwys cinio i 15,000 o wahoddedigion ym Mharc Wynnstay.


John Parry, y telynor dall o Riwabon gan William Parry. John Parry oedd telynor swyddogol Syr Watkin.
© Amgueddfa Cymru

I am writing in the dark
and Mr Parry,
ye famous harpist,
is playing like an angel.

- David Garrick, llythyr o Wynnstay, 1777

 

Roedd y trydydd Syr Watkin wrth ei fodd yn ffermio ac yn ymladd.  Magodd fyddin wirfoddol, Gŵyr Meirch Amddiffynnol Hynafol Prydain, i frwydro yn Iwerddon.  Galwyd ei filwyr yn Ŵyn Bach Syr Watkin a Brythoniaid Gwaedlyd gan eu beirniaid.

Gyda’i gilydd, roedd y tri Syr Watkin yn symbol o oruchafiaeth y boneddigion yng Nghymru.


John Mellor un o fechgyn cerbydau Erddig, dechrau'r 18fed ganrif.
© Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Stop, Reader, and poor Vonkelly condole
Whose swarthy outside hid a white, bright soule.
In India born, from whence she hither come
To take her rest under this cold Welsh tombe.

- Beddargraff o'r 18fed ganrif, eglwys plwyf San Silyn

 

Cyfoeth a Grym

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Olion Traed - Cyfoeth a Grym - fformat PDF 1.1Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

 
English
 

Cyswllt i

Taith Trwy Ein Gorffennol
Cynhanes
Goresgyniad Ymerodrol
Yr Oesoedd Tywyll
Y Gororau
Yr Oesoedd Canol
Undeb a Chyfeddiant
Rhyfeloedd Cartref
Cyfoeth a Grym
Man Masnachu
Morthwyl a Gefel
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint