|
Roedd teulu'r Jeffreys yn byw yn Neuadd Acton yn y 17eg ganrif. Parc Acton oedd ty pwysicaf Wrecsam.
Aelod mwyaf enwog y teulu oedd 'Hanging Judge Jeffreys' . Ailadeiladwyd y ty rhwng 1687- 1695 ac fe'i hymestynnwyd yn 1786-7. Crewyd y parc yn y 1790au.
Dioddefodd y ty yn sgil amrywiol ddefnyddiau yn ystod dechrau'r 20fed ganrif. Ceisiodd William Aston ganfod defnydd newydd ar ei gyfer ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y ty ei ddymchwel yn 1954. Dim ond y porthdy a'r fynedfa sy'n sefyll heddiw. Mae 'safle amwynderau dinesig' ar y tir lle'r oedd y ty yn sefyll unwaith erbyn hyn.
 |
Parc Acton yn ei anterth
© Archifau Wrecsam |
Roedd Jeffreys yn deulu Cymreig yn byw yn Neuadd Acton yn y 17eg ganrif. Arwyddair y teulu oedd 'Pob dawn o Dduw' . Aelod mwyaf enwog y teulu oedd y Barnwr Jeffreys drwg-enwog.
Y Barnwr Jeffreys
Ganwyd George Jeffreys yn 1647 yn Acton. Aeth i'r ysgol yn Sir Amwythig ac yn ddiweddarach i Lundain. Derbyniodd hyfforddiant yn y gyfraith ond treuliodd lawer o amser yn diota ac yn rhwydweithio. Bu'r rhwydweithio'n fanteisiol iawn iddo.
 |
Cartwn o'r Barnwr Jeffreys
|
Cafodd fywyd cyffrous a gwnaeth sawl gelyn. Yn 1680 daeth yn Brif Ustus Caer, er iddo fod ' y gwaethaf a ymddangosodd erioed ar y fainc.' Melltiodd Siarl y II gymeriad Jeffreys
"Nid oes ganddo ddysg, dim synnwyr, dim moesau ac mae'n fwy digywilydd na deg o'r rheini sy'n cerdded y stryd
."
Er hynny, penododd Siarl y II ef yn Brif Ustus dros Loegr gyfan yn 1683. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, sicrhaodd Jeffreys y byddai ei enw'n mynd lawer mewn hanes. Roedd yn cadeirio'r Frawdlys Waedlyd yn 1685. Roedd Monmouth a'i gefnogwyr protestanaidd wedi gwrthryfela yn erbyn Jams II ac wedi colli. Jeffreys a oedd yn llywyddu treialon y gwrthryfelwyr a ddaliwyd. Dienyddiwyd bron iawn i 300 a chludwyd cannoedd fel caethweision i Ynysoedd y Caribî. Yn ôl llafar gwlad, roedd Jeffreys yn ymhyfrydu yn ei bwer a dywedwyd iddo dderbyn arian gan deuluoedd y rhai a gyhuddwyd wrth iddynt ymbilio am faddeuant.
Roedd Jeffreys wedi gwrthod ildio i lyw Jams II. Roedd hyn yn gamgymeriad mawr. Yn 1688 roedd Gwilym o Orange a'i gefnogwyr wedi llwyddo i drechu Jams a'i ddisodli oddi ar yr orsedd. Ceisiodd Jeffreys ffoi dramor wedi cuddwisgo fel morwr. Cafodd ei ddal mewn tafarn gyda 35,000 gini a llwyth o nwyddau arian. Prin yn goroesi'r dyrfa, fe'i carcharwyd yn Nhwr Llundain a bu farw yno yn 1689. Ysgrifennodd ei elynion y llyfrau hanes a dinistriwyd enw da Jeffreys am byth. |
Ailadeiladodd Syr Griffith Jeffreys gartref y teulu rhwng 1687 - 1695. Sefydlodd ei wraig Y Fonesig Dorothy elusen yn ei hewyllys a gynorthwyodd i sefydlu nifer o'r ysgolion cyntaf yn Wrecsam. Ar ôl Jeffreys roedd y ty'n berchen i Philip Egerton ac yna Ellis Yonge cyn i Syr Foster Cunliffe ei brynu am £27,000.
 |
Parc Acton, 1796
© Archifau Wrecsam |
Atgyweiriodd Syr Foster yr adeilad ac ychwanegu asgell newydd iddo. Bryd hynny roedd y ty yn adeilad o frics coch gyda chonglfeini carreg. Yn y 1790au lluniodd Syr Foster barc wedi ei dirlunio gyda gardd a llyn o fewn y wal derfyn. Yn 1820 lluniodd fynedfa newydd i'r ty ar Ffordd Caer gyda mynedfa neo-glasurol.
 |
Neuadd Acton, 1829
© Archifau Wrecsam |
Ychydig iawn a wnaeth y cenedlaethau diweddarach i wella'r adeilad. Plastrodd y 4ydd Barwnig waliau'r ty, tra gosododd y 5ed Barwnig gerrig ar ei wyneb, ac felly roedd y ty yn ymddangos fel petai wedi ei adeiladu mewn tair arddull wahanol - yr un ohonynt yn cydweddu â'r llall.
 |
Parc Acton - cyn iddo ddirywio
© Archifau Wrecsam |
Yn 1917 prynwyd Parc Acton gan Syr Bernard Oppenheimer. Roedd Hwsariaid Sir Ddinbych yn parhau i letya ar yr ystad ac yn y ty. Agorodd Oppenheimer ysgol hyfforddi torri diamwntiau a gweithdy ym Mharc Acton. Lluniwyd y cynllun i sicrhau swyddi ar gyfer cyn-filwyr. Roedd yr ethos 'Cartref Gweddus i Arwyr' ar waith, ond wedi marwolaeth sydyn Syr Bernard yn 1921 caeodd y gweithdy.
Prynwyd y Cae Naw Acer a'r chwe deg acer ger Lôn Rhosesni gan y Fwrdeistref Sirol. Comisiynwyd Patrick Abercrombie i ddylunio cynllun tai o ansawdd ar gyfer y chwe deg acer. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1921. Mae cynllun Abercrombie wedi goroesi hyd heddiw. Newidiwyd yr ystad yn dyddynnod ar gyfer cyn-filwyr. Roedd saith tyddyn garddio masnachol a phedwar tyddyn laetha.
Prynodd William Aston y ty a'r tir ar ôl marwolaeth Syr Bernard. Ei gynllun cyntaf oedd troi'r neuadd yn ysgol dechnegol ond ni fu'n llwyddiant. Yn hytrach na hyn daeth y neuadd yn arddangos ar gyfer cwmni dodrefn Aston. Agorwyd y gerddi i'r cyhoedd.
 |
 |
Neuadd Acton - taflen gyhoeddusrwydd, 1920's
© Archifau Wrecsam |
 |
Neuadd Acton - gerddi cyhoeddus
© Archifau Wrecsam |
Yn 1939 hawliodd y Swyddfa Ryfel Barc Acton. Adeiladwyd cytiau Nissen ar y tir ar gyfer y milwyr. Roedd y swyddogion yn lletya yn y ty. Roedd Ffiwsilwyr Lancashire, y Ffiwsilwyr Cymreig, Cyffinwyr De Cymru a'r Gyrcas ymysg y catrawdau a arhosodd yn Acton yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn 1943 bu 33 ydd Bataliwn Adeiladu Arwyddion a 400 fed Bataliwn Arfau'r Maes yn lletya ym Mharc Acton. Roedd Wrecsam yn lletya dynion o Kentucky, Ohio, Gorllewin Virginia ac Indiana. Daeth Dôl yr Eryrod yn stordy i'w cerbydau, a'r Farchnad Fenyn oedd eu ffreutur, Neuadd Ysgol Acton y lleoliad ar gyfer eu dawnsfeydd a gwerthwyd gwm cnoi yn siop Byddin y DU yn Garden Village. Roedd Byddin y UD yn parhau i gael ei wahanu. Roedd y milwyr croenddu'n aros yn y 'The Studio' ger y gyffordd â Ffordd Caer a Ffordd y Llwyni.
Cael a chael wnaeth y ty i oroesi Byddin yr UD, ond roedd mewn cyflwr gwael. Cafodd yr asgell ogleddol ei dymchwel ychydig ar ôl y rhyfel. Bu pobl yn crwydro o amgylch y parc am goed tân yn ystod blynyddoedd caled y dogni yn 1945-47. Erbyn 1954 roedd cyflwr y ty'n gywilyddus. Ymgyrchodd yr Henadur Hampson i achub y ty fel amgueddfa i'r dref. Bu'n aflwyddiannus a dechreuodd y tîm dymchwel ar y gwaith yn Awst 1954.
Nid oes olion o'r ty erbyn hyn. Adeiladwyd tai ar hyd Rhodfa Herbert Jennings dros ran fwyaf y parc, ond mae'r gweddill wedi ei ddiogelu fel tir glas ar gyfer pobl Wrecsam.
|