|
Sefydlodd Syr Foster Gymdeithas Saethyddion Prydain yn 1878. Roedd yn ffordd ddelfrydol i gymdeithasu â'i gyfoedion cymdeithasol o amgylch Wrecsam. Roedd y gymdeithas yn agored i ferched a dynion. I ddechrau y weithgaredd oedd y flaenoriaeth. Erbyn canol y 19eg ganrif daeth yr achlysur yn afradlon ac ychydig iawn oedd yn gallu fforddio cynnal digwyddiadau Cymdeithas y Saethyddion. Daeth cyfarfodydd y gymdeithas i ben yn 1880.
 |
Cyfarfod Saethyddion Brenhinol Prydain yn Erddig, 1822
© Drwy garedigrwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Mynychodd Syr Foster barti ym Mhriordy Norton, cartref Syr Richard Brooke, yn 1787. Roedd y gwesteiwr wedi trefnu cystadleuaeth saethyddiaeth fel hwyl i'w westeion. Roedd yn llwyddiannus iawn felly penderfynodd Syr Foster ddechrau ei Gymdeithas Saethyddiaeth ei hun.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cymdeithas Saethyddion Prydain ar Chwefror 27 ain 1787.
-
Roedd 74 o aelodau gwreiddiol: 37 o ferched a 37 o ddynion.
-
Roedd yn rhaid cael balot o'r aelodau cyn y gallai unrhyw un ymuno. Os oedd dau wrthwynebydd, gwrthodwyd yr aelodaeth.
-
Cynhaliwyd y cyfarfodydd bob pythefnos o'r dydd Gwener cyntaf ym mis Mai.
-
Roedd aelodaeth yn costio gini y flwyddyn i ddynion yn ogystal â gini am bob cyfarfod. Roedd y merched yn cael aelodaeth am ddim.
-
Roedd yn rhaid i'r aelodau fod mewn gwisg saethwyr neu dderbyn dirwy o gini.
-
Byddai'r ferch a oedd yn sgorio uchaf yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn yn Noddwraig Anrhydeddus ar gyfer y tymor.
-
Bob blwyddyn byddai'r Prif Ferch yn gyfrifol am bob aelod benywaidd ac yn gosod dirwy am gamymddygiad.
 |
Saethyddion Prydain ym Mharc Gwersyllt
© Drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Roedd Saethyddion Prydain yn cyfarfod ym mhob un ty mawr o amgylch Wrecsam: Erddig, Porthdy Gresffordd, Parc Iscoed, Castell Penarlâg ac Wynnstay. Roedd gan y Gymdeithas ei phabell ei hun gyda byrddau, meinciau, llestri a chytleri a deithiodd o leoliad i leoliad yn ystod y tymor. Yn amser Syr Foster cigoedd oer, llysiau poeth, port a gwin y ty oedd y bwyd fel rheol. Roedd cinio'n cael ei weini ar ôl y saethu am 3pm ac wedi ei glirio'n gyflym mewn ymgais aflwyddiannus i gadw pawb yn sobr.
"At So and So's the other day
The Clouds were in a passion
His art no archer could display
Since grape shot came in fashion"
Awgrym cynil am y diota.
Derbyniodd y Gymdeithas nawdd Siôr, Tywysog Cymru'n fuan iawn. Cyflwynodd wobr bob blwyddyn i'r merched a'r dynion. Roedd gan y Gymdeithas hefyd ei bardd ei hun a oedd yn ysgrifennu rhigymau am y gwesteiwr a'r gwesteion. Ystyriwyd y cyfarfodydd fel y mannau i gael eich gweld. Roedd hefyd yn asiantaeth garu ar gyfer y dosbarthiadau uwch yn Wrecsam. Nid saethyddiaeth oedd yr unig weithgaredd yn ystod y cyfarfodydd hyn.
Ar ôl marwolaeth Syr Foster, parhaodd saethyddiaeth i fod yn boblogaidd, ond aeth y cyfarfodydd yn hynod o afradlon. Roedd yn anodd cadw i fyny a'r 'Jones's', os mai'r teulu Wynn o Wynnstay oedd y rheini. Ffynnodd y Gymdeithas hyd y 1860au ond erbyn y 1870au roedd y ffasiwn wedi newid. Tennis lawnt oedd y chwaraeon newydd. Cyfarfu'r Gymdeithas am y tro olaf yn 1880.
|