|
Roedd taid Syr Foster, a oedd â'r un enw sef Foster, yn fasnachwr yn Lerpwl. Dechreuodd y Foster cynharaf gwmni'r teulu yn masnachu â'r gwladfeydd yng Ngogledd America. Roedd y genhedlaeth nesaf yn fodlon gadael i reolwyr redeg y busnes llawer mwy. Gwnaethant arian ond daeth y cwmni i ben yn 1759.
Ymgartrefodd teulu'r Cunliffe i fod yn fonheddwyr yn lle, gan fwynhau ffordd o fyw eu cyfoedion cymdeithasol uwchraddol. Parhaodd teulu'r Cunliffe i fyw ym Mharc Acton hyd 1905.
Daeth cysylltiad y teulu â Wrecsam i ben gyda marwolaeth y 6 ed Barwnig, academydd Rhydychen, ym mrwydr y Somme yn 1917. Gwerthwyd Parc Acton ar ôl ei farwolaeth.
Adeiladodd Foster Cunliffe (Taid Syr Foster) fusnes llwyddiannus fel masnachwr yn Lerpwl. Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y ddinas ac yn faer deirgwaith. Erbyn 1720 roedd Foster wedi adeiladu busnes masnachu â'r planhigfeydd yn Virginia. Roedd y cwmni'n berchen ar bedair llong caethfasnachu a deuddeg llong cargo.
Roedd tad Syr Foster, Robert Cunliffe, yn gyfarwyddwr y cwmni tra roedd ewythr Syr Foster, Syr Ellis yn A.S. dros Lerpwl, er ei fod mewn gwirionedd yn treulio'i amser yn Sussex. Penododd Robert, Richard Morris yn rheolwr.
Roedd Morris yn wr busnes gwirioneddol. Canolbwyntiodd ar fewnforio tybaco o ansawdd isel o Virginia a'i werthu i'r Ffrancwyr. Roedd y Ffrancwyr yn fodlon ysmygu tybaco na fyddai'r unrhyw un arall yn ei gyffwrdd. Erbyn 1750 roedd gan gwmni Cunliffe 5 safle masnachu yn Virginia a 26 llong yn gweithio ar y Masnachu Triphlyg. Roeddynt yn masnachu halen Sir Gaer, haearn bwrw, gweision gwyn a chaethweision o Affrica. Gwnaethant hyd yn oed ennill y cytundeb i ludo Jacobiaid i alltudiaeth ar ôl y gwrthryfel aflwyddiannus yn 1745. Nid oedd hyn heb ei drafferthion . Roedd y Ffrancwyr yn dymuno cael busnes Cwmni Cunliffe ac roedd anghydfodau'n aml. Yn 1750 lladdwyd Morris mewn damwain gyda chanon ar fwrdd llong.
Bu i gyfoeth Cwmni Cunliffe ddirywio ar ôl marwolaeth Morris. Daeth masnachu'r cwmni i ben yn 1759. Erbyn hynny roedd y teulu'n ddigon cyfoethog i fyw ar eu buddsoddiadau ac ymgartrefu i fywyd bonheddwyr cyfoethog yn y wlad.
Roedd Syr Foster yn gweddu'n dda â'r ffordd o fyw hon gyda'i hoffter o saethyddiaeth a'r celfyddydau. Ar ôl ei farwolaeth yn 1834 daeth ei ail fab Robert Henry, yn 4ydd Barwnig. Bu Robert yn y fyddin yn yr India gyda Chwmni Dwyrain India. Bu farw yn 1859. Roedd ei frawd iau George Cunliffe, yn ffigwr pwysig yn Wrecsam. Fel Ficer Wrecsam roedd ynghlwm wrth sawl cynllun gwella lleol. Roedd yn frwd iawn dros ddod â glanweithdra priodol a dwr i'r dref. Fel gwr crefyddol, roedd yn pryderu am yr hoffter lleol o yfed a hapchwarae. Daeth yn enwog fel y gwr a ddaeth â rasio yng Nghae Ras Wrecsam i ben.
 |
Cwpan Cymru
© Drwy garedigrwydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru |
Robert Alfred oedd y 5 ed Barwnig. Er ei fod yn filwr fel ei dad, gwnaeth fwy o ymdrech i ddod yn fwy cysylltiedig â gweithgareddau Wrecsam. Daeth yn AS Rhyddfrydol dros Sir y Fflint yn 1872 yn erbyn ei wrthwynebydd Ceidwadol Yr Anrh George Kenyon. Roedd yn AS dros Sir Ddinbych rhwng 1880 - 85. Roedd Robert Alfred yn Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru.
Ar ei dir ef, ger safle Ysgol Acton heddiw y chwaraewyd Gêm Gwpan cyntaf Cymru yn 1878.
|