|
Y milgi oedd hoff gi teulu'r Cunllife. Dewiswyd y milgi fel arfbais y teulu pan ddaeth y Cunliffe cyntaf yn farwnig yn 1759. Yn 1820 adeiladwyd y fynedfa newydd mewn arddull neo-glasurol i Syr Foster. Ar ben y fynedfa gosododd bedwar ci pren cerfiedig. Daeth y pedwar ci yn un o symbolau Wrecsam. Yn 1982 atgyweiriwyd y fynedfa a gosodwyd copïau o'r cwn gwreiddiol arni. Mae un o'r cwn gwreiddiol i'w weld yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
 |
Ci Acton Gwreiddiol
© Amgueddfa Wrecsam |
 |
|
© Archifau Wrecsam |
Gofynnodd Syr Foster i Thomas Harrison, dyluniwyr gwersyllty Castell Caer a Phont Grosvenor i ddylunio mynedfa newydd ar gyfer Parc Acton. Adeiladwyd y fynedfa yn 1820. Cerfiodd James Edwards, saer o Lavister, ger Wrecsam, y pedwar ci a gwnaed y pedair cynffon haearn yn lleol.
 |
Mynedfa Parc Acton - c1900
© Archifau Wrecsam |
Enillodd y fynedfa'r enw 'y Cwn' a'r 'Pedwar Ci' wrth i'r milgwn ddatblygu'n symbol o'r dref. Daeth y bygythiad cyntaf gan Syr Bernard Oppenheimer. Roedd am eu symud i'w gartref ei hun. Newidiodd ei feddwl ar ôl canfod eu bod wedi eu gwneud o bren. Dywedwyd bod Byddin y DU wedi dwyn un ohonynt fel cofrodd ond nid oes tystiolaeth i hyn ddigwydd. Bu difrod i'r cwn dros amser. Yn 1966 fe'u rhoddwyd mewn gofal tra penderfynwyd beth i'w wneud â'r fynedfa. Achubwyd y giatiau rhag cael eu dymchwel gan ymgyrch Cymdeithas Dinesig Wrecsam. Yn 1982 defnyddiwyd y cwn fel mowldiau i wneud milgwn ffibr gwydrog newydd. Allied Breweries, perchnogion Bragdy Wrexham Lager, a dalodd am y gwaith ac mae'r cwn yn parhau i warchod y fynedfa i ystad Parc Acton.
|
Mynedfa Parc Acton , 2004
© Amgueddfa Wrecsam |
|
Cwn Acton - ddim yn para gystal â'r rhai gwreiddiol
© Amgueddfa Wrecsam |
|