 |
Llun o Portread Foster Cunliffe
© a Drwy Garedigwydd John Dabney Fine Art Ltd |
Mae'r llun yn dyddio o oddeutu 1787. Nid yw union ddyddiad y llun yn hysbys. Y ffaith amlwg yw bod Syr Foster wedi ei beinio fel saethwr. Roedd Cymdeithas Saethyddion Prydain a sefydlwyd gan Syr Foster yn weithredol o 1787 - 1793. Peintiodd Hoppner Syr Foster fel bonheddwr ffasiynol, neu Syr Foster a oedd yn dymuno cael ei bortreadu fel un. Roedd saethyddiaeth yn ffasiynol iawn, ac felly fe'i peintiwyd yng ngwisg y gymdeithas.
Arddangoswyd y llun yn Arddangosfa Trysorau Celf a Diwylliannol Wrecsam 1876 ochr yn ochr â phortread o Harriet Cunliffe. Yr arddangosfa oedd uchafbwynt diwylliannol y 19eg yn Wrecsam gyda lluniau gan Reynolds, Gainsborough a Lawrence a gwrthrychau archeolegol megis Bowlen Caergwrle a Gyddfdorch Aur San Steffan hefyd i'w gweld.
Gwerthwyd y llun gan deulu'r Cunliffe yn 1950 am £360. Prynwyd gan gangen o'r teulu o Ganada. Yn 1988 gwerthwyd y llun unwaith eto. Enw'r perchennog newydd oedd Roger Whittaker, y canwr gwerin o Genia a arddangosodd y llun yn ei gartref yn Sir Hereford. Symudodd dy a gwerthwyd y llun yn 1999. Ar hyn o bryd mae'r llun yn berchen i ddeliwr celf John Dabney. Ei werth ar y farchnad sydd £125,000.
|