Syr Foster Cunliffe
 |
Llun o Portread Foster Cunliffe
© a Drwy Garedigwydd John Dabney Fine Art Ltd |
Portread o Syr Foster Cunliffe, 3ydd Bg, Parc Acton, Wrecsam, Sir Ddinbych, yn sefyll mewn tirwedd goediog, yn gwiso gwisg saethwr, gyda chot werdd, clôs melyn bwff ac esgidiau hesian. Mae ei het saethwr pluog yn gorwedd wrth ei draed. Mae'n dal bwa hir yn ei law chwith, ac mae ei law dde'n tynnu saeth o'i gawell.
Peintiwyd gan John Hoppner R.A. (1758 - 1810).
Olew ar ganfas, 239 x 144cm, (94 x 57 modfedd), mewn ffrâm bren oreurog o'r cyfnod.
Yr Arlunydd
 |
John Hoppner, Hunan Bortread
© Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain |
John Hoppner oedd peintiwr portreadau mwyaf enwog Prydain ddwy ganrif yn ôl. Yn olynydd i Syr Joshua Reynolds, bu iddo lywodraethu'r byd celf yn y blynyddoedd 1790 - 1810. Peintiodd John Hoppner y bobl mwyaf enwog o'i gyfnod o Dywysog Cymru, yn ddiweddarach Siôr IV i arwyr megis Nelson a Wellington.
Ganwyd John Hoppner yn Llundain yn 1758. Roedd yn fab i fewnfudwyr Bafaraidd a oedd yn gweithio yn y llys brenhinol. Sylwodd y Brenin Sior III ar dalent John fel arlunydd. Anfonwyd John i fyw gyda cheidwaid Lluniau'r Brenin. Ar y pryd roedd straeon yn honni bod Hoppner yn fab anghyfreithlon i'r Brenin. Roedd Hoppner yn hapus i ledaenu'r stori a oedd yn honni ei gysylltiad brenhinol drwy gydol ei yrfa.
 |
Arglwydd Nelson y Llyngesydd gan John Hoppner
© Drwy Garedigrwydd yr Amgueddfa Arforol Genedlaethol |
Yn 1780 arddangosodd John Hoppner ei lun cyntaf yn yr Academi Frenhinol. Ffynnodd ei yrfa'n fuan. Yn 1785 derbyniodd ei waith comisiwn cyntaf i bortreadu tair merch ieuengaf y Brenin, y tywysogesau Sophie, Amelia a Mary. Mae'r lluniau'n parhau i fod yn y Casgliad Brenhinol. Erbyn 1790 Hoppner oedd prif arlunydd portreadau Siôr, Tywysog Cymru (Yr un a adeiladodd Bafiliwn Brighton ac a oedd yn gwybod sut i gael amser da.)
 |
Siôr IV, yn Dywysog Cymru
© Drwy Garedigrwydd The Wallace Collection |
Roedd ei ddefnydd o liw, ei ddealltwriaeth o anatomi, ei werthfawrogiad o ansawdd dillad a'r ffordd yr oedd yn goleuo ei bortreadau yn ei wneud yn boblogaidd iawn â'r enwog a chyfoethog. Roedd yn boblogaidd iawn gyda'r boneddigesau.
 |
 |
Is-Iarlles Llanelwy
© Drwy garedigrwydd Fine Arts Museums of San Francisco |
Portread o Foneddiges, 1795
© Drwy garedigrwydd National Gallery of Victoria, Australia |
Roedd ei eisteddwyr yn cynnwys Frederick, Dug Efrog ('Grand Old Duke of York' yn y rhigwm i blant) a'r Foneddiges Caroline Lamb. Roedd llun y Foneddiges Caroline i'w weld yn Althorp, cartref teuluol Iarll Spencer a chartref y Dywysoges Diana yn blentyn. Peintiodd Hoppner bortreadau o wladweinwyr blaenllaw ei gyfnod: Pitt yr Ieuengaf, Castlereagh a Canning.
Roedd Hoppner yn gymeriad. Roedd yn siaradwr o fri, ac yn finiog ei feddwl a oedd yn gweddu i'r dim â chlecs ac ymryson y llysoedd brenhinol. Hoppner oedd arlunydd Tywysog Cymru, ond roedd ei brif wrthwynebwr Syr Thomas Lawrence, yn arlunydd i'r Brenin. Roedd John Hoppner yn ddi-flewyn ar dafod. Roedd galw am ei sylwadau ar y ffasiynau diweddaraf bob amser.
Bu farw yn 1810 ar ôl arddangos bron iawn i 170 o weithiau celf yn yr Academi Frenhinol yn unig.
 |
 |
Mrs Williams, c1790, gan John Hoppner
© Drwy garedigrwydd Tate Britain |
Portread o Ddyn, o bosib Richard Sheridan, gan John Hoppner
© Drwy garedigrwydd The Hermitage |
^ yn ôl i'r brig
Y Pwnc
Roedd Syr Foster yn byw ym Mharc Acton, Wrecsam ar ôl iddo brynu'r ystad yn 1787. Datblygodd y ty a chreu parcdir newydd. Roedd yn aelod pwysig o gymdeithas Wrecsam. Sefydlodd Gymdeithas Saethyddiaeth Prydain. Roedd yn aelod gweithgar o Farchoglu Iwmonyddiaeth Wrecsam yn ystod rhyfeloedd Napoleon, ond fel arall roedd ei fywyd yn dawel iawn yn ei gartref ar gyrion gogleddol Wrecsam.
Ganwyd Syr Foster Cunliffe, 3 ydd Barwnig yn 1755, yn fab i Robert Cunliffe, masnachwr yn Lerpwl a thirfeddiannwr yn Sir Gaer.
Yn 1787 prynodd Syr Foster Neuadd Acton a threuliodd y blynyddoedd nesaf yn trawsnewid y lle - adeiladu adain newydd a ddyluniwyd gan James Wyatt, plannu gerddi newydd a chreu Parc Acton.
Priododd Syr Foster â Harriet Kinloch a chawsant deulu mawr (ond nid oedd yn fawr yn y cyfnod) - chwe mab a phedair merch.
|
Harriet Kinloch, Boneddiges Cunliffe, wrth briodi gan John Hoppner R.A.
© Drwy garedigrwydd National Gallery of Art, Washington DC |
Roedd Syr Foster yn aelod nodweddiadol o'r bonheddwyr. Daeth busnes masnachu'r teulu yn Lerpwl i ben yn 1759, ond roedd gan Syr Foster ddigon o eiddo, tir a diddordebau busnes i sicrhau ffordd o fyw gyfforddus.
Roedd yn gasglwr celfyddyd brwd. Roedd yn berchen ar luniau gan Thomas Gainsborough a Syr Joshua Reynolds. Roedd hi'n naturiol iddo felly gael arlunydd o ansawdd John Hoppner i beintio ei bortread.
Mae'r llun yn dangos diddordeb mawr arall Syr Foster: saethyddiaeth. Darganfyddodd ei fod yn hoff o saethyddiaeth mewn parti ym Mhriordy Norton. Ar ôl dychwelyd penderfynodd sefydlu cymdeithas saethyddiaeth i gyfarfod a difyrru ei ffrindiau.
Fodd bynnag, nid oedd saethu â bwa a saeth yn ddigon wrth i Brydain ddatgan rhyfel yn erbyn Ffrainc yn 1793. Roedd gan y llywodraeth ofn y byddai Ffrainc yn ceisio goresgyn, ac anogwyd pob sir i sefydlu ei lu gwirfoddol ei hun. Cynigiwyd i Syr Foster fod yn ben ar y marchoglu iwmonyddiaeth yn 1795. Gwrthododd hyn gan ddweud nad oedd ganddo'r profiad. Ymunodd fel aelod cyffredin yn lle hyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddo deimlo'n wahanol erbyn 1800 gan iddo fod yn Brif Bennaeth. Roedd marchoglu Iwmonyddiaeth Wrecsam yn llu gwirioneddol; roeddynt yn hyfforddi o leiaf unwaith yr wythnos, roedd pythefnos ar ddyletswydd parhaus y flwyddyn, archwiliadau gan y Llywodraeth bob chwarter ac roedd ganddynt offer yn barod i weithredu.
 |
Marchoglu Iwmonyddiaeth Wrecsam yn eu gwisg yn 1803
© Wrexham Museum |
Effeithiodd y rhyfel â Ffrainc ar Syr Foster mewn ffyrdd eraill. Golygodd Gwarchae Cyfandirol Napoleon y bu cynnydd mewn prisiau bwyd. Daeth gwin a phort yn brin mewn prin amser. Bu i Syr Foster gyfyngu ar fyw'n fras ym Mharc Acton. Mae'n rhaid iddo fod yn llwyddiannus gan i rywun sgriblan y canlynol ar ei giât:
"A great house and no cheer
A large park and no deer
Large cellars and no beer
Sir Foster Cunliffe lives here."
Mae'n swnio fel petai rhywun yn anhapus gyda'i groeso.
Bu farw Syr Foster yn 1834.
|