Cyfeillion Amgueddfeydd Wrecsam

Mae'r Cyfeillion yn elusen annibynnol sy'n trefnu digwyddiadau yn seiliedig ar dreftadaeth yn yr Amgueddfa. Mae bod yn Gyfaill yn ffordd rwydd o fod yn rhan o Amgueddfeydd Wrecsam, er enghraifft, gweithio fel gwirfoddolwr yn y cefndir. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.


Am Cyfeillion Amgueddfeydd Wrecsam

Nodau ac amcanion y Cyfeillion yw hyrwyddo, cefnogi a chynorthwyo'r holl agweddau ar waith Amgueddfeydd a Gwasanaethau Treftadaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Pwy sy'n rhedeg y Cyfeillion?

Mae'r Cyfeillion yn ymddiriedolaeth elusennol ac felly fe'i gweithredir yn unol â'r rheolau a osodwyd gan y Comisiwn Elusennol. Nid yw'n rhan o'r Cyngor ond yn gorff preifat a weithredir gan ei aelodau. Mae'r aelodau yn ethol pwyllgor bychan i weithredu'r mudiad.

Swyddogion

Cadeirydd: Mr. Derek M. Jones

Is-gadeirydd: Mr. Ron Holliday

Trysorydd: Mr Brian Kingsnorth

Ysgrifennydd: Mrs Glynne O'Carroll

Cyfathrebiadau:

c/o Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adeiladau'r Sir, Stryt y Rhaglyw, Wrecsam LL11 1RB.

Ebost: museum@wrexham.gov.uk

Anfonir negeseuon ebost ymlaen at aelod o Bwyllgor y Cyfeillion.

yn ôl i'r brig

Cost Tanysgrifiadau Blynyddol

Oedolyn (unigol) £7

Oedolyn (cwpwl) £10

Gostyngiadau £3
(mae'r gostyngiadau ar gyfer plant, myfyrwyr, pensiynwyr a'r di-waith)

Teulu £12
(mae teulu yn cynnwys dau oedolyn a dau blentyn)

Masnachol £12

Corfforedig £25

Pris mynediad i ddarlith i'r rheini nad ydynt yn aelodau yw £2

Ni chodir tâl mynediad os ydych yn ymuno â'r Cyfeillion ar yr un noson.

yn ôl i'r brig

Gweithgareddau a Digwyddiadau yn eich Amgueddfa Leol

Rydym yn cynnig llawer o weithgareddau sy'n gwneud dysgu am eich treftadaeth yn llawer mwy diddorol: sgyrsiau, teithiau cerdded dan arweiniad, gweithgareddau celf a chrefft i blant a chyfle i ddod wyneb yn wyneb â chasgliadau'r Amgueddfa. Os ydych chi'n credu mai hen bethau mewn casys yw amgueddfeydd yn unig, meddyliwch eto! I gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich amgueddfa leol, ewch i'r adran Arddangosfeydd a Digwyddiadau.

yn ôl i'r brig

Rhaglen Ddarlithoedd

Cyfeillion Amgueddfeydd Wrecsam Sgyrsiau 2012

Ionawr 17 Robert Williams “Cenhadaeth Mormoniaid Cymru a Dan Jones”
“The Welsh Mormons Mission and Dan Jones”

Chwefror 21 Allister Williams
“Taith Ffotograffig Drwy Dref Wrecsam”
“A Photographic Tour Through Wrexham Town, 1850-1950”

Mawrth 20 David Burton. “Byw mewn Castell (Waun)
“Living in a Castle” (Chrik)

Ebrill 17 Brian Kingsnorth “Mwy o Drysor wedi ei Gladdu
‘More Buried Treasure”

Mai 15 I’w gyhoeddi

Mehefin 19 I’w gyhoeddi

DIM CYFARFODYDD YM MIS GORFFENNAF/AWST

Medi 18 AGM Siaradwr i’w gyhoeddi’n ddiweddarach

Mae Cyfeillion yr Amgueddfa yn cadw'r hawl i newid y siaradwyr fel bo angen yn sgil newid yn yr amgylchiadau.

yn ôl i'r brig