Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Ffrwydriad a Dianc

 

Roedd y stem nos ar ddydd Gwener 21ain Medi 1934 yn brysur. Roedd llawer o lowyr yn "dyblu" er mwyn bod yn rhydd i wylio'r gêm bêl droed, Wrecsam yn erbyn Tranmere Rovers, ar brynhawn dydd Sadwrn.

Llun cartwn o glowyr"It came nearer like thunder and then the place was all black. You couldn't see anything."

Edward Williams, Dyn Injan ar waelod pwll Dennis


Ychydig ar ôl 2am fore Sadwrn, ysgydwodd ffrwydriad anferth adran Dennis. Clywodd Fred Davies yng ngwaelod y pwll y s w n. Gadawodd ei gaban i weld beth oedd yn digwydd ac fe'i gorchuddiwyd mewn llwch. Ffoniodd Davies y wyneb i'w rhybuddio. Nid oedd ateb gan y dynion yn 'Y Clutch' (gweler cynllun).

Llun cartwn o glowyr"Something has happened down the Dennis. I think it has fired."

Fred Davies, newyddion cyntaf y drychineb

 

Dynion Achub, Pwll Glo Gresffordd
Dynion Achub, Pwll Glo Gresffordd
© Liverpool Daily Post

Daeth Bonsall a'i is-reolwr, Andrew Williams, i lawr siafft Dennis ar unwaith. Aeth Williams ar hyd brif dwnnel Dennis a chyfarfod yr unig rai a oroesodd yn dod allan.

Llun o Pwll Glo Gresffordd o'r awyr Medi 22-23 1934.
Pwll Glo Gresffordd o'r awyr Medi 22-23 1934.
© Liverpool Daily Post

Roedd John ac Albert Samuels yn gweithio yn adran 29s pan glywsant glep. Roedd John Samuels yn gwybod bod rhywbeth wedi mynd o'i le yn ddifrifol yn adran 14s. Gyda'r dyn tân, Dai Jones, aethant i fyny i'r wyneb, gan gasglu dynion at ei gilydd wrth fynd. Ceisiwyd mynd ar hyd amrywiol ffyrdd, ond sylweddolodd John bod mynd i'r llif aer yn ddibwynt, os oedd 14s wedi mynd. Yr unig ffordd allan oedd ar hyd hen ffordd 99s.

Roedd y daith allan yn brawf o wydnwch: gydag ond tair lamp i ddarparu golau a'r llosgnwy (methan) yn gwanhau eu hegni, gwnaeth y tri, dan arweiniad John Samuels, eu ffordd i fyny ysgolion ar draws y ffawt a chropian trwy'r twneli cul. Aethant ar hyd y ffordd aer ddychwelyd cyn dilyn y ffordd gyswllt i'r 'Clutch'. Er eu bod yn ôl mewn darn o'r pwll a oedd yn adnabyddus iddynt, rhaid oedd dringo dros nifer o gwympiadau to cyn cyfarfod Andrew Williams yn dod y ffordd arall. Roeddent wedi ei gwneud hi. Doedd neb arall.

Llun o Y rhai a oroesodd Trychineb Gresffordd
Y rhai a oroesodd Trychineb Gresffordd: Chwith i'r dde - Bert Samuels, Thomas Fisher, David Jones, Jack Samuels, Teddy Andrews. Roedd Cyril Challoner yn un arall a oroesodd.
© Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint

Llun cartwn o glowyr"One fellow said 'Wait until somebody comes for us.' But nobody was coming for us at all. It was the last time we saw them."

Teddy Andrews, un o'r rhai a oroesoedd

 

 
English
 

Cyswllt i

Gwir Bris Glo
Pwll Glo Gresffordd
Ffrwydriad a Dianc
Gobeithion Gwan
Adwaith y Genedl
Ymchwiliad
Trwbl Danddaear
Cyfrifoldeb Pwy?
Adladd
Cau
Cydnabyddiaethau
Llyfr Coffadwriaeth Gresffordd Ar-Lein
Map Pwll Glo Gresffordd
Cynllun Tanddaearol
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint