Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gobeithion Gwan

 

Ar y wyneb, roedd y newyddion drwg wedi lledaenu'n gyflym. Ymgasglodd teuluoedd o gwmpas ben pwll, eisiau gwybod beth oedd yn digwydd i lawr o dan y ddaear.

I lawr yn y pwll, roedd y sefyllfa'n gwaethygu. Profodd caneri bod llwybr aer dychwelyd 29s yn rhy beryglus i fynd trwyddo. Ni fyddai unrhyw un arall yn goroesi ar ôl i John Samuel ddod allan. Roedd tanau yn llosgi ar droad 29s gan ei gwneud yn amhosibl dianc o unrhyw adran Dennis arall. Yn y cyfamser, roedd y cwympiadau ar brif ffordd Dennis yn ei gwneud yn anodd delio gyda'r tân. Roedd prinder offer ymladd tân ar y safle hefyd yn llesteirio gwaith cynnar y timau achub.

Image of the Daily Express cartoon September 24th 1934
"Gwir Bris Glo" Cartwn yn y Daily Express, Medi 24ain 1934
© Daily Express

Llun cartwn o glowyr"All that Saturday, I sat with my mum waiting for news, hoping that dad would be among the survivors and would come walking in through the door."

Elizabeth Clarke, merch Francis Hughes, un o'r 266 o lowyr a laddwyd

 

Cafwyd trychineb arall fore Sadwrn. Roedd William Bonsall, rheolwr y pwll glo, eisiau gwybod beth oedd cyflwr yr aer yn llwybr aer dychwelyd 20s. Efallai y byddai glowyr adran 20s yn dal yn fyw. Anfonwyd tîm achub Llai Rhif 1 i mewn i'r llwybr. Lladdodd y nwyon y caneri cyn iddynt fynd bum medr. Aeth y tîm yn ei flaen, a chanfod y ffordd wedi ei blocio. Ar y ffordd yn ôl, lladdwyd tri o'r achubwyr - John Lewis, Bill Hughes a Dan Hughes - gan wenwyn monocsid carbon. Mae'n bosib bod eu hoffer wedi ei niweidio yn yr helbul ar y wyneb.

Llun o Pobl yn aros am newyddion o'r pwll, Pwll Glo Gresffordd, Medi 22ain-23ain 1934.

Llun o Pobl yn aros am newyddion o'r pwll, Pwll Glo Gresffordd, Medi 22ain-23ain 1934.
Pobl yn aros am newyddion o'r pwll, Pwll Glo Gresffordd, Medi 22ain-23ain 1934.
© Liverpool Daily Post

Parhaodd y timau achub i ymladd y tân. Ar y prynhawn Sul, clywyd ffrwydriadau yn ddyfnach yn y pwll. Yn sydyn, roedd y cwestiwn wedi newid - nid a fedrent achub y glowyr, ond a ddylent barhau i beryglu eu bywydau eu hunain.

Llun o John Lewis a phrif dīm achub Llai. Bu farw  John Lewis yn ystod y gwaith achub. Ef yw'r ail o'r dde, rhes flaen.
John Lewis a phrif dîm achub Llai. Bu farw John Lewis yn ystod y gwaith achub. Ef yw'r ail o'r dde, rhes flaen.
© Archifau Wrecsam

Llun o Aeth y Dynion Achub I Fewn
Aeth y Dynion Achub I Fewn
© Liverpool Daily Post

Cyfarfu William Bonsall, Syr Henry Walker, Prif Arolygydd Pyllau Glo, ac Edward Hughes, Asiant Glowyr am 7pm a phenderfynu rhoi'r gorau iddi a selio'r pwll. Dyma'r penderfyniad cywir oherwydd ar ddydd Mawrth, ffrwydrodd adran Dennis unwaith eto, gan ladd un dyn ar y wyneb. Rhwng popeth, roedd y drychineb wedi hawlio bywydau 266 o ddynion.

Llun o Y pwll wedi eu selio
Y pwll wedi eu selio
© Liverpool Daily Post

Llun cartwn o glowyr"We emptied during those two hours our team was there, about fifty to sixty sacks of sand and I am sure about a hundred fire extinguishers and we hadn't moved an inch."

Robert Ellis, gweithiwr achub

 

Llun cartwn o glowyr"What a sight! The whole level was just one mass of flame, the coal sides of the roadway burning in one white mass."
 
English
 

Cyswllt i

Gwir Bris Glo
Pwll Glo Gresffordd
Ffrwydriad a Dianc
Gobeithion Gwan
Adwaith y Genedl
Ymchwiliad
Trwbl Danddaear
Cyfrifoldeb Pwy?
Adladd
Cau
Cydnabyddiaethau
Llyfr Coffadwriaeth Gresffordd Ar-Lein
Map Pwll Glo Gresffordd
Cynllun Tanddaearol
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint