Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Pwll Glo Gresffordd

 

Cyn yr 20fed ganrif, nid oedd modd cael mynediad at y glo dwfn ger Wrecsam. Galluogodd technoleg fodern a mynediad i gyfalaf cyfranddaliadau i Henry Dennis a'i fab, Henry Dyke Dennis, ddatblygu pwll glo yn Acton Grange, ger Gresffordd. Cychwynnodd y gwaith ym 1907 a phedair blynedd yn ddiweddarach, roedd siafft Dennis 2,263 troedfedd o ddyfnder, wedi ei chwblhau. Daeth y glo cyntaf i'r wyneb ym mis Mehefin 1911.

Llun o Clwb Pêl Droed Pandy, 1934
Clwb Pêl Droed Pandy, 1934
© Archifau Wrecsam

Ehangodd y pwll glo yn gyflym ac erbyn 1934 roedd 2,200 o ddynion yn gweithio yng Ngresffordd. Roedd y pwll glo wedi ei rannu yn ddwy brif adran: y Dennis a'r De-Ddwyrain. Roedd pen gogleddol y Dennis (ardaloedd 20s & 61s) yn cael eu gweithio â llaw, ond roedd y lleill (y 109s, 14s & 29s) wedi eu mecaneiddio.

Roedd y pwll yn defnyddio system tair stem. Roedd y stem nos fel rheol ar gyfer gwaith atgyweirio, ond roedd stemiau nos Wener a Sul ar gyfer cael y glo. Yn aml, roedd y glowyr yn gweithio stemiau ychwanegol, gan "ddyblu" er bod hyn yn anghyfreithlon. Ond ar y nosweithiau hynny roedd y rheolwyr yn croesawu'r dwylo ychwanegol.

Yn fasnachol, roedd problemau yng Ngresffordd. Gwnaeth y pwll golled ym 1929, 1932 a 1933. Roedd y rheolwr, William Bonsall, dan bwysau i gynyddu cynhyrchedd. Hyd yn oed pan roedd yn gwneud arian, nid oedd yn ddigon proffidiol i Dyke Dennis a'i deulu a oedd berchen ar 45% o'r lofa.

Llun o derbynniad
Derbynniad

Yn bwysicach na hyn, efallai, ym mis Rhagfyr 1911, roedd y Llywodraeth wedi pasio'r Ddeddf Pyllau Glo:

  • 42 (1) For every seam in a mine newly opened after the commencement of this act there shall be . two main intake airways, one of which shall not be used for the haulage of coal.

Nid oedd hyn yn berthnasol i Bwll Glo Gresffordd, gan ei fod eisoes ar agor, ond ni ddilynodd y perchnogion yr arferion da yma. Roedd hyn i fod â chanlyniadau marwol i lowyr adran Dennis ar ddydd Sadwrn 22ain Medi 1934.

36 (3) Every part of the mine, in which ten or more persons are employed at the same time, must be provided with at least two ways affording means of egress to the surface.

Deddf Pyllau Glo 1911

 

 
English
 

Cyswllt i

Gwir Bris Glo
Pwll Glo Gresffordd
Ffrwydriad a Dianc
Gobeithion Gwan
Adwaith y Genedl
Ymchwiliad
Trwbl Danddaear
Cyfrifoldeb Pwy?
Adladd
Cau
Cydnabyddiaethau
Llyfr Coffadwriaeth Gresffordd Ar-Lein
Map Pwll Glo Gresffordd
Cynllun Tanddaearol
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint