Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Adwaith y Genedl

 

Trodd sylw'r genedl gyfan i Bwll Glo Gresffordd a thrallod y gymuned lofaol. Am newid, cyflwynodd y wasg y glowyr fel arwyr. Roedd y straeon yn canolbwyntio ar arwriaeth y timau achub, trasiedi y rhai a gollodd aelodau o'u teuluoedd a'r glowyr ffodus a oedd wedi newid stem. Ychydig o ddyfalu oedd ynglyn â'r hyn a achosodd y drychineb, llai fyth pwy oedd ar fai.

Llun o Cyhoeddodd y Wrexham Leader gyfres o atodiadau i anrhydeddu dioddefwyr y drychineb.
Cyhoeddodd y Wrexham Leader gyfres o atodiadau i anrhydeddu dioddefwyr y drychineb.
© The Wrexham Leader

Daeth negeseuon o gydymdeimlad o bob cwr o Brydain, a thramor. Cyfrannwyd mwy na £566,546 mewn apêl a gynorthwywyd gan y wasg, a gadwodd Gresffordd yn sylw'r cyhoedd. Talodd cronfa les lwfansau i weddwon, plant a dibynyddion y glowyr a fu farw. Roedd disgwyl i'r olaf hyn fod yn ddiolchgar a gwybod eu lle.

Llun o Telegram gan lowyr yr Undeb Sofietaidd
Telegram gan lowyr yr Undeb Sofietaidd
© Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint

Llun cartwn o glowyr"I am sending you some comics which I wondered if you would distribute amongst some of the children whose fathers and brothers were killed in the mine."

Rachel Booth, llythr i Gronfa Les Trychineb Pwll Glo Gresffordd

 

Roedd glowyr Gresffordd a oroesodd hefyd mewn angen. Gyda'r pwll ar gau, roeddynt oll yn ddiwaith erbyn y bore Llun. Ni fyddai'n hawdd cael gwaith yn Wrecsam, a oedd yn dioddef dirywiad economaidd.

Roedd adwaith y genedl i'r drychineb yn amrywio o'r gwleidyddol i'r personol. Anfonodd weithwyr, undebau llafur, busnesau, cynulleidfaoedd eglwysi, ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion arian a rhoddion. Cyflwynodd lawer o bobl yr ychydig a oedd ganddynt.

Llun o Pobl yn aros am newyddion o'r pwll, Pwll Glo Gresffordd, Medi 22ain-23ain 1934.
Pobl yn aros am newyddion o'r pwll, Pwll Glo Gresffordd, Medi 22ain-23ain 1934.

I lawer, roedd cydymdeimlad wedi ei gymysgu gyda llid am realaeth bywyd gwaith y glowyr. Roedd teimladau mor gryf bod rhai pobl yn rhoi arian yn uniongyrchol i undeb y glowyr, gan eu bod yn ofni na fyddai byth, fel arall, yn cyrraedd y rhai mewn angen.

Llun cartwn o glowyr"It is only when a terrible accident like this occurs that people wake up to the fact that the worker pays all the time."

Violet Higgins, Adain y Merched, Plaid Lafur Willesden

 

Teimlwyd llid yn nes at gartref hefyd. Roedd teuluoedd y glowyr eisiau atebion ac, yn fwy na dim, roeddynt eisiau adfer y cyrff o adran Dennis. Roeddynt i'w siomi ddwywaith yn hyn o beth.

 

 
English
 

Cyswllt i

Gwir Bris Glo
Pwll Glo Gresffordd
Ffrwydriad a Dianc
Gobeithion Gwan
Adwaith y Genedl
Ymchwiliad
Trwbl Danddaear
Cyfrifoldeb Pwy?
Adladd
Cau
Cydnabyddiaethau
Llyfr Coffadwriaeth Gresffordd Ar-Lein
Map Pwll Glo Gresffordd
Cynllun Tanddaearol
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint