Trychineb Pwll Glo Gresffordd - Gwir Bris Glo

Mae Gresffordd ym maes glo Gogledd Cymru, band o byllau glo a oedd yn ymestyn o'r Parlwr Du ar arfordir Sir y Fflint i Ifftwn ar ffin Sir Amwythig.

Llun o Band Arian y Rhos c1910
Band Arian y Rhos, c1910. Roedd gan gymunedau glo lleol megis Gresffordd, Llai a'r Rhos oll eu bandiau arian.
© Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych

Mae cyfeiriadau at gloddio yn lleol mor gynnar â'r 15fed ganrif. Ehangodd y diwydiant yn enfawr o'r 18eg ganrif ymlaen, ac erbyn 1900 roedd 12,500 o lowyr yng Ngogledd Cymru yn cynhyrchu tair miliwn tunnell o lo y flwyddyn.

"In the whole British empire there is no occupation in which a man may meet his end in so many different ways as that of a miner."

Friedrich Engels

Roedd cysylltiadau diwydiannol wastad yn wael. Yn y 1920au gwaethygodd y berthynas rhwng y glowyr a pherchnogion y pwll glo. Gyda diweithdra yn uchel a threchiad yn streic 1926, roedd y glöwr a oedd mewn gwaith mewn sefyllfa enbyd: cael ei orweithio a derbyn tâl annigonol. Yn y cyfamser, roedd perchnogion y glofeydd yn ei chael yn gynyddol anodd gwneud mwy o elw ac felly roeddent yn ceisio torri costau i'r lleiaf posibl. Roedd pyllau glo lleol yn cau - caeodd Westminster, Wrecsam & Acton, Vauxhall a Gatewen yn fuan ar ôl ei gilydd yn y 1920au a'r 1930au.


Canolfan Esgidiau Rhos, c.1926. Roedd diweithdra yn falltod ar y cymunedau glo. Roedd y ganolfan hon yn darparu hyfforddiant i lowyr di-waith.
© Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych

Nid oedd amodau gwaith lawer gwell. Ym 1932 roedd 907 o ddamweiniau marwol ym mhyllau glo Prydain. Roedd glöwr ddeg gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd yn y gwaith na gweithiwr ffatri.Roedd ganddo hefyd siawns un ym mhob saith o ddioddef anaf difrifol. Roedd mecaneiddio, gyda'r cynnydd mewn s w n a llwch, wedi gwneud amodau gwaith yn waeth. Roedd rheoleiddio'r pyllau glo wedi cynyddu'n araf ers y 19eg ganrif, ond nid oedd yr un llywodraeth yn barod i orfodi'r rheolau, ac yn gyffredinol roedd y perchnogion yn erbyn pob diwygiad.

"I should have thought that the miners' leaders were the stupidest men in the kingdom, if I had not met the owners."

Tadogwyd ar Arglwydd Birkenhead, 1926


Pwll Glo Gresffordd, c.1920
© Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych

"The current system of ownership and working in the coal industry stand condemned."

Mr Ustus Sankey, Comisiwn Brenhinol ar y Diwydiant Glo, 1919

yn ôl i'r brig