Hanes Gwaith Haearn y Bers

Croeso i Waith Haearn John Wilkinson yn y Bers.

Roedd John Wilkinson yn haearnfesitr, dyfeisiwr ac entrepreneur adnabyddus yn y ddeunawfed ganrif. Roedd yn cael ei alw yn 'Jac Hurt am Haearn' (Iron Mad Jack) oherwydd ei obsesiwn â haearn.

Ef oedd dyfeisiwr y peiriant cyntaf i dyllu canonau'n fanwl gywir. Defnyddiwyd ei ganonau ar fôr a thir gan Brydain a gan elynion y wlad yn ôl y sôn!

Dyfeisiodd beiriant i dyllu silindrau'n fanwl gywir. Roedd silindrau Wilkinson yn hollbwysig i lwyddiant injan stêm chwyldroadol James Watt. Roedd Gwaith Haearn y Bers yn ganolfan cynhyrchu silindrau.

Gallwch ddarganfod mwy am John Wilkinson yng Nghanolfan Dreftadaeth y Bers.


Llun cyfoes o beiriant tyllu canonau Wilkinson.


Llun modern o beiriant tyllu canonau.


Darlun syml o beiriant tyllu silindrau John Wilkinson (gweler fersiwn mawr)


Talai John Wilkinson ei weithlu â thocynnau. Er gwaethaf hyn, roedd yn gyflogwr poblogaidd.

Dogfennau Hanes Gwaith Haearn y Bers

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Hanes Gwaith Haearn y Bers - fformat PDF 587Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig