Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

English

Cyngor | Busnes a Diwydiant | Cymuned | Addysg | Gwasanaethau Lleol y Cyngor | Hamdden a Thwristiaeth | Cyfleusterau Ar Lein

Ailadeiladu'r Gwaith Haearn


Mae'n anodd dychmygu sut oedd Gwaith Haearn y Bers yn arfer edrych o'r gweddillion archeolegol o'ch blaen.

Mae'r llun yn helpu i esbonio beth oedd y gweddillion hyn pan oedd y gweithfeydd haearn ar agor.

  • A. Ffwrnais chwyth - lle'r oedd haearn yn cael ei wneud.  (Mae'r gair 'chwyth' yn cyfeirio at yr aer oedd yn chwythu i'r ffwrnais i godi'r tymheredd.)

  • B. Platfform llenwi - lle byddai mwyn haearn, calchfaen a golosg - y deunyddiau crai ar gyfer gwneud haearn - yn cael eu hychwanegu i'r ffwrnais.

  • C. Dyfrgwrs yr olwyn ddŵr a oedd yn gyrru meginau'r ffwrnais. (Mae'r wal yn y llun wedi disgyn ers hynny).

  • D. Byncer glo a phopty golosg.  Mae golosg yn danwydd glanach a mwy effeithlon na glo.

  • E. Bwylerdy injan stêm Isaac Wilkinson.  Arbrofai Isaac â gwahanol ddulliau o chwythu gwynt i'r ffwrnais.

  • F. Safle'r dyfrffos a'r olwyn ddŵr.  Roedd olwyn ddŵr arall yn y dyfrffos hwn yn gyrru'r felin dyllu.

  • G. Pyllau castio - yn y pyllau hyn yn y ddaear yr oedd gweithwyr y ffowndri yn gwneud canonau a chynnyrch haearn bwrw arall.

  • H. Gwely'r craen - defnyddiwyd y craen i godi canonau trwm o'r pyllau castio.

  • I. Melin y Bers - fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol fel ffowndri.  Daeth archeolegwyr o  hyd i byllau castio wrth gloddio y tu mewn i'r adeilad.

  • J. Gefail bosibl.

  • K. Ffwrneisi aer - roedd haearn crai a gweddillion haearn yn cael eu gwresogi yn y ffwrneisi hyn i wneud haearn tawdd yn barod i'w gastio.

  • L. Adeilad siâp octagon - roedd y ddwy ffwrnais aer ddwbl yn cyflenwi digon o haearn i wneud canon.  Roedd y pwll castio tu mewn i'r adeilad.  Cymerai rhyw 400 cwt (oddeutu 20 tunnell) o haearn i wneud pob gwn 32 pwys.

  • M. Ystafell ffetlo neu fowldio bosibl.  Yn rhyfedd iawn roedd y llawr yn yr estyniad hwn wedi'i wneud o haearn.

  • N. Ystafell ffetlo - lle byddai gweithwyr yn tynnu castiau o'u mowldiau a thorri'r darnau o fetel a oedd dros ben.

  • O. Safle posibl y felin dyllu.

  • P. Llwybr y ffordd wagen.  Roedd ceffylau'n tynnu wagenni i ddod â'r deunyddiau crai ar hyd y ffordd wagen.  Roedd canonau gorffenedig yn cael eu cludo ar y ffordd i ddociau Caer.  Aethpwyd â'r silindrau i Preston Brook, ger Warrington, i'w dosbarthu ar gychod camlas i Firmingham a chanolbarth Lloegr.

  • Q. Bwylerdy'r injan stêm - nid yw'r archeolegwyr wedi penderfynu beth oedd swydd yr injan stêm hon eto. Mae haneswyr melinau yn credu mai olion odyn ydyw a oedd yn sychu grawn ar gyfer y felin flawd.

Gallwch ddarganfod mwy am Waith Haearn y Bers gan staff ar ddyletswydd neu trwy edrych ar yr arddangosiadau yn y Ganolfan Dreftadaeth.


Argraffiad artist o sut allai Gwaith Haearn y Bers fod wedi edrych, oddeutu 1790.

Dogfennau Ailadeiladu'r Gwaith Haearn

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ailadeiladau'r Gwaith Haearn Rhan 1 - fformat PDF 452Kb

Ailadeiladau'r Gwaith Haearn Rhan 2 - fformat PDF 453Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Hanes Gwaith Haearn y Bers

Yn ôl i'r brig Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau