Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Il Gigante Buono – Y Cawr Addfwyn

 

Arddangosfa hanes pêl-droed bwysig yn Amgueddfa Wrecsam.

"Yn ein byd peryglus ac anoddefgar - mae stori John Charles - y pêldroediwr gorau a welodd Cymru erioed ac yn un o beldroedwyr gorau un y byd - yn cynnig ysbrydoliaeth gref, yn arbennig i bobl ifanc. Bydd arddangosfa'r Cawr Addfwyn nid yn unig yn atgoffa'r genhedlaeth hŷn o ddyn da, a oedd yn bêldroediwr gwych, ond bydd hefyd yn rhoi gwybod i'r genhedlaeth ifanc am stori anhygoel bywyd John Charles. Yn fwy pwysig, bydd yn ysbrydoliaeth i ni gyd gymryd rhan mewn chwaraeon - ac mewn bywyd - gydag ychydig mwy o'r arddull, y tegwch a'r urddas a oedd yn nodweddiadol o ymagwedd John tuag at bêl-droed a'r ddynol ryw."

Phil Cope, sylfaenydd, Ymddiriedolaeth y Cawr Addfwyn a chreawdwr arddangosfa'r Cawr Addfwyn.

Roedd y Cawr Addfwyn yn arddangosfa deithiol bwysig a agorodd ei drysau'n swyddogol yn Amgueddfa Wrecsam ar Hydref 15fed 2004. Dechreuwyd cynllunio ar gyfer yr arddangosfa pan oedd John Charles yn fyw ac roedd y dyn mawr ei hun ynghlwm wrth ei chreu hyd ei farwolaeth drist. yn Chwefror 2004. Er i John Charles fod yn ddyn diymhongar, roedd raid iddo ef hyd yn oed dderbyn bod ei yrfa pêl-droed a'i fywyd oddi ar y cae yn gwneud stori dda - stori a fyddai'n gwneud arddangosfa ragorol.

Gweler Galeri Goffa John Charles

Gannwyd John Charles yng Nghwmbwrla, ger Abertawe yn 1931. Chwaraeodd i dîm bechgyn Ysgol Abertawe ac yna ymunodd â thîm Abertawe fel prentis. Methodd Abertawe i weld ei dalent gwirioneddol ond fe welodd Mr Pickard, sgowt o Leeds United ef. Bu i Major Frank Buckley gael John Charles ar dreial am fis yn hydref 1948. Ym mis Ionawr 1949, arwyddodd John Charles i dîm Leeds United. Gwnaeth John Charles ei farc yn bendant ar bêl-droed proffesiynol tra roedd yn chwarae yn Ffordd Elland. I ddechrau fe chwaraeodd fel canolwr, ond sylweddolodd Buckley y byddai'r cawr o Gymro yn llawer gwell fel canolwr blaen. Profodd John Charles ei reolwr yn gywir. Ef oedd y Cymro cyntaf i fod y sgoriwr goliau uchaf yng nghynghrair Lloegr, gan sgorio 42 gôl yn nhymor 1953-54. Ef oedd sgoriwr uchaf Leeds yn nhymhorau 1952-53, 1953-54, 1955-56 a 1956-57. Gyda John Charles fel canolwr blaen aeth Leeds o fod yn dîm a oedd yn brwydro'n galed yn yr ail adran yn osgoi disgyn i'r drydedd i fod yn dîm yn yr adran gyntaf.

"Lle'r oedd o yn rhestr uchaf y byd? Roedd o yno gyda'r goreuon un … Pele, Maradona, Cruyff, Di Stephano, Best… ond faint ohonynt oedd o'r safon orau yn y byd mewn dau safle? Mae'r ateb yn hawdd. Yr un ohonynt."

Syr Bobby Robson.

Gwnaeth John Charles ei farc ar y gêm yn rhyngwladol. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gymru ar y Cae Ras (dim ond un o ddigwyddiadau hanesyddol pêl-droed Cymru a ddigwyddodd yn y Cae Ras) ym mis Mawrth 1950 mewn gêm yn erbyn Gogledd yr Iwerddon, ond oherwydd nerfau yn ystod y gêm a diffyg profiad ni chwaraeodd ar ei orau. Cymerodd dair blynedd iddo sefydlu ei hun ar y tîm cenedlaethol. (Mae'n rhaid bod chwaraewyr da i ddewis ohonynt os oedd John Charles yn ei chael hi'n anodd cael ei ddewis!) Dychwelodd i chwarae i Gymru yn erbyn Gogledd yr Iwerddon yn 1953 pan sgoriodd ddwy gôl i Gymru ennill. Roedd John Charles yn aelod o dîm Cymru a gurodd Lloegr am y tro cyntaf mewn dwy flynedd ar bymtheg mewn gêm a enillwyd o 2-1 ar Barc Ninian yn Hydref 1955.

Ym mis Ebrill 1957 gwelwyd Charles gan Umberto Agnelli, perchennog y cwmni ceir Fiat a'r ochr Eidalaidd, Juventus. Roedd y gystadleuaeth am John Charles yn un rymus- ceisiodd Lazio, Milan a Real Madrid ei brynu. Yn y diwedd Juventus a enillodd. Darbwyllodd Agnelli i Charles chwarae Juventus, ac yno bu'r Cymro am bump o dymhorau pêl-droed Eidalaidd gogoneddus.  Ffynnodd yn y gêm Eidalaidd, lle profodd nifer a ddilynodd yn ôl ei droed fethiant. Roedd y cefnogwyr Eidalaidd wrth eu boddau gyda Charles a daeth yn llysgennad da i'w genedl.

John Charles oedd y prif sgoriwr goliau yn ei dymor cyntaf gyda Juventus gan sgorio 28 gôl mewn 34 gêm. Fe'i enwyd yn Bêldroediwr Eidalaidd y Flwyddyn. Daeth Charles yn un o'r tri brenin ym mhêl-droed yr Eidal ar y cyd ag Omar Sivori o'r Ariannin a Giampiero Boniperti o'r Eidal. Yn ystod ei bum mlynedd yno, enillodd Juventus y gynghrair Eidalaidd a'r gwpan dair gwaith.

Sgoriodd Charles gyfanswm o 93 gôl mewn 155 o ymddangosiadau i Juventus yng nghrair mwyaf amddiffynnol y byd. Hefyd, pwysodd y MAFIA ar y dyfarnwyr i sicrhau nad oedd Juventus, tîm o ogledd yr Eidal a John Charles yn sgorio gormod o goliau.

Daeth uchafbwynt rhyngwladol Charles yn 1958 pan gyrhaeddodd Cymru rownd derfynol Cwpan y Byd yn Sweden gan guro Israel ddwywaith mewn dwy gêm gymhwysol a drefnwyd yn arbennig. Yn y rownd derfynol sgoriodd Charles gôl gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ac aeth y tîm â bryd sawl un o dramor gyda'u chwarae heriol. Roedd Charles yn baragon o'r "gêm brydferth" gan chwarae'r bêl ac nid y chwaraewr, chwaraewr heriol, er na chafodd ei gosbi erioed. Ni chwaraeodd tîm Hwngari mor deg yng ngêm y rownd gyntaf yn erbyn Cymru ac fe anafwyd Charles yn y gêm, ond aeth Cymru ymlaen i'r wyth olaf. Bu i Gymru deimlo colled y dyn mawr oherwydd ei anafiadau a cholli i Frasil o un gôl a sgoriwyd yn y 73ain munud.

Agorwyd arddangosfa'r Cawr Addfwyn yn swyddogol ar 15fed Hydref 2004 a bu i'w gweld tan 18fed Rhagfyr. Cynhaliwyd cyfres lwyddiannus o weithdai i ysgolion a drefnwyd gan Lynn Podmore ac a gyflwynwyd ganddi hi a Jonathan Gammond, Swyddog Arddangosfeydd yr Amgueddfa a Cynthia Boardman, yr arlunydd lleol ac addysgwraig annibynnol. Ers hynny mae arddangosfa'r Cawr Addfwyn wedi teithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a Chanolfan Casnewydd. Ers hynny mae arddangosfa'r Cawr Addfwyn wedi teithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Casnewydd, Merthyr Tudful, Abertawe a Chaerdydd.

Prynwyd Casgliad John Charles gyda chymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Galeri
Dychwelyd i mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint