![]() |
|
Datblygodd y cestyll yn ganolfannau grym i dywysogion Cymru a barwniaid y Gororau. |
|
Cestyll yw nodweddion mwyaf amlwg ein gwlad o Gymru'r Oesoedd Canol. Maent yn symboleiddio uchelgais y tywysogion Cymreig, natur ymledol arglwyddi'r Mers ac yn olaf, ddarostyngiad Cymru annibynnol i Edward I; roedd cestyll yn llawer mwy nag adeiladau yn unig.
Y Normaniaid adeiladodd y cestyll cyntaf yng Nghymru. Adeiladau syml mwnt a beili oeddynt, ond roeddynt yn dangos i'r brodorion pwy oedd yn rheoli. Y symbolau hyn o ormes oedd y targed cyntaf yn ystod gwrthryfel.
Ni fu'r tywysogion Cymreig yn hir cyn sylweddoli pwysigrwydd y cestyll fel arf bygythiol ac fel symbol o arglwyddiaeth. Yn nechrau'r 12 fed ganrif cododd Cadwgan ap Bleddyn, tywysog Powys, gastell yn Y Trallwng mewn ymateb i gastell cyfagos Roger Montgomery yn yr Hen Domen. Adeiladodd tywysogion fel Owain ap Gruffudd o Wynedd a Rhys ap Gruffudd o'r Deheubarth gestyll i sicrhau eu ffiniau. Yn fuan, roedd cannoedd o gestyll wedi'u codi ar hyd gororau Cymru. Roedd cestyll hefyd yn llety diogel i'r tywysog a'i deulu, er enghraifft, trigai tywysogion y Deheubarth yng nghastell Aberteifi a thywysogion Powys Fadog yng nghastell Dinas Brân.
Castell mwnt a beili wedi'i leoli'n strategol ger Llandegla, Sir Ddinbych. Adeiladwyd Tomen y Rhoddwydd gan Owain, Tywysog Gwynedd ym 1148-9 ar diroedd tywysogion Powys. Difrododd Iorwerth Goch o Bowys y castell ym 1157.
CBHC. Hawlfraint y Goron
Unwaith safai hoff blas brenhinol tywysogion Gwynedd yma yn Abergwyngregyn. Yn Aberffraw ar Ynys Môn roedd eu prif blas.
CBHC. Hawlfraint y Goron
Adeiladodd Llywelyn Fawr Gastell Criccieth rhwng 1230-40. Fe'i hysbrydolwyd, mwy na thebyg, gan gestyll ei elyn, Hubert de Burgh, yn Nhrefaldwyn yr ymosododd Llywelyn arnynt ddwy waith, a chan gestyll ei gyd-frwydrwr, Ranulf de Blundeville, yn y Felallt.
Ivan Lapper, CADW. Hawlfraint y Goron
Roedd Castell y Bere mewn lleoliad ardderchog i reoli Dyffryn Dysynni, Meirionydd. Adeiladodd Llywelyn y castell hwn ym 1221 - yn ôl Brut y Tywysogion - i sicrhau ffin ddeheuol Gwynedd.
CBHC. Hawlfraint y Goron
Defnyddiodd Llywelyn Fawr, tywysog Gwynedd (1194-1240) gestyll i sicrhau cadernid politicaidd ac economaidd yng Ngogledd Cymru. Roedd ei gadwyn o gestyll rhwng Tegeingl (Sir y Fflint) a Meirionydd yn diogelu cefn gwlad ei dywysogaeth, yn rheoli'r llinellau cyfathrebu a masnachu a'r llwybrau goresgyn posibl ac yn cysgodi'r cestyll brenhinol a chestyll y Mers i'r de. Bu Castell y Bere, Degannwy, Dolwyddelan a Dolbadarn yn gymorth i Llywelyn sicrhau'r adnoddau economaidd a milwrol yr oedd eu hangen. Mae'r cestyll hefyd yn dangos ei allu i drefnu a'i uchelgais i fod yn fwy na thywysog Gwynedd yn unig.
Roedd Castell Dolbadarn yn rheoli'r bwlch yn Llanberis. Adeiladodd Llywelyn Fawr y twr mawr crwn i gyfateb â thwr mawr William Marshall yng Nghastell Penfro. Carcharodd Llywelyn ap Gruffudd ei frawd h n a'i wrthwynebydd, Owain Goch, yn y castell hwn.
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Hawlfraint y Goron
Adluniad rhandoredig o'r twr a adeiladodd Llywelyn Fawr ar ddechrau'r 13 eg ganrif.
C Jones-Jenkins, CADW. Hawlfraint y Goron
Yn yr un modd, pan adenillodd ei wyr, Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Degeingl ym 1257, ailadeiladodd y castell yn Ewlo. Wedi iddo sefydlu ei hun yn gadarn yng Ngogledd Cymru ceisiodd Llywelyn ehangu ei awdurdod i ganolbarth Cymru drwy godi castell yn Nolforwyn yn Nyffryn Hafren. Roedd hynny yn un castell yn ormod i Edward I, Brenin Lloegr. I Edward I roedd y castell newydd hwn, a'r ffaith nad oedd Llewelyn yn fodlon talu gwrogaeth iddo, yn cyfleu bod Llywelyn yn daeog na wyddai ei le bellach. Ym 1277 atgoffodd Edward ef.
Adluniad darluniadol o Gastell Ewlo tua 1257. Mae Castell Ewlo rhwng y Fflint a Phenarlâg yn Sir y Fflint.
C Jones-Jenkins, CADW. Hawlfraint y Goron
Llun o'r awyr o Gastell Dolforwyn, a adeiladwyd gan Llywelyn ap Gruffudd ym 1273 i gadw golwg ar Ddyffryn Hafren ac i wrthsefyll Castell Montgomery, bedair milltir i ffwrdd. Mae'r ffaith iddo adeiladau castell mor bell i'r de yn arwydd o uchelgais Llywelyn.
CBHC. Hawlfraint y Goron