Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Concwest ac Adladd

 
Llun o Anfonodd Roger Lestrage y neges ganlynol at Edward I i'w hysbysu am farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd mewn brwydr.
Anfonodd Roger Lestrage y neges ganlynol at Edward I i'w hysbysu am farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd mewn brwydr.
"Sachez, sire, ke vos bones gens se combatirent av Leweln le finz Griffin en le paes de Buelt le vendredy pchain après le feste eint Nhoilas, issi ke Leweln est mrot et tote la flour de se gent morz."
Gwybodaeth mwy

Cotton Nero II, f.182. © Llyfrgell Brydeinig

Ym 1277 gorfododd Edward I Gytundeb Aberconwy bychanol ar Llywelyn. Fe gollodd y rhan fwyaf o'i diroedd, tra roedd ei frawd Dafydd, y bradwr, ar ei ennill. Gorfu i Llywelyn dalu dirwy o £50,000 hefyd am ei ymddygiad gwrthryfelgar. Ar oddeutu £650 o incwm y flwyddyn, roedd hyn yn ei ddedfrydu i ddyled am oes. Ym 1282, o ganlyniad i gael ei flino gan swyddogion brenhinol a gwrthwynebwyr ymhlith arglwyddi'r Mers, lansiodd ei frawd Dafydd, gyrch o Gastell Caergwrle ar Gastell Penarlâg gerllaw, a chychwynnodd gwrthryfel ar draws Cymru gyfan.

Roedd y canlyniad yn anochel. Gan fod ganddo fwy o filwyr ac adnoddau, trechodd Edward pob gwrthwynebydd. Lladdwyd Llywelyn ei hun mewn brwydr fechan yng Nghilmeri ym mis Rhagfyr 1282. O fewn blwyddyn bradychwyd Dafydd. Cafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru yn yr Amwythig ac arddangoswyd ei ben yn Llundain.

Oherwydd iddynt ddilyn eu hagendâu eu hunain y tywysogion Cymreig eu hunain oedd yn gyfrifol am eu tranc. Roedd pobl Cymru, fel cenedl, fodd bynnag, yn teimlo'r golled yn fwy emosiynol. Crynhodd y bardd Gruffudd ab Yr Ynad Coch eu teimladau yn ei farwnad faith:

".Pa beth y'n gedir i ohiriaw?
Nid oes le y cyrcher rhag carchar braw;
Nid oes le y triger; och o'r trigaw!"

Ymatebodd y tywysogion Cymreig a oroesodd mewn ffyrdd gwahanol. Derbyniodd y rhai pragmatig fel Gruffudd, arglwydd Powys Wenwynwyn, y sefyllfa newydd fel ag yr oedd.

Gwrthryfelodd y rhai di-hid, fel Madog, cefnder Llywelyn, mewn anobaith a chawsant eu gorchfygu.

Ni chollodd Edward ddim amser cyn gorfodi ei reolaeth ar Gymru. Gyda chyhoeddi Statud Rhuddlan rhannwyd cefn gwlad Cymru a chrëwyd system newydd o lywodraeth a oedd yn uniongyrchol atebol i'r brenin. Codwyd cestyll newydd yn Harlech, Biwmares, Conwy a Chaernarfon. Hwy oedd y symbolau mwyaf gweladwy o ddarostyngiad Cymru i reolaeth frenhinol.

Ym 1301 gwnaeth Edward ei fab yn Dywysog Cymru. Unwaith eto roedd Edward I yn gwneud pwynt. Ni fyddai'n deitl etifeddol ond byddai bob amser yn parhau'n rhodd i'w dyfarnu gan y teyrn.

Ym 1301 gwnaeth Edward ei fab yn Dywysog Cymru. Unwaith eto roedd Edward I yn gwneud pwynt. Ni fyddai'n deitl etifeddol ond byddai bob amser yn parhau'n rhodd i'w dyfarnu gan y teyrn.

Cotton Nero D II, f.191v. © Y Llyfrgell Brydeinig

 

Llun o Castell Conwy

Adluniad darluniadol o Gastell Conwy a'r fwrdeistref yn y 14 eg ganrif.

Ivan Lapper, Cadw. Hawlfraint y Goron.

 

Llun o Castell Caernarfon
Adluniad darluniadol o Gastell Caernarfon o dan warchae yn ystod gwrthryfel Madog ym 1294.

Ivan Lapper, Cadw. Hawlfraint y Goron.

 

 
English
 

Cyswllt i

Cymru yn Oes y Tywysogion
Y Tywysog Cymreig
Y Tywysogion ac Arglwyddi'r Mers
Cestyll
Crefydd
Bywyd y Llys
Bywyd yng Nghymru
Yr Ymderchion i gael Annibyniaeth
Concwest ac Adladd
Cymru
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint