|
Roedd llys tywysog Cymreig yn sefydliad ynddo ei hun.
"Nid oes neb yn begera yng Nghymru." Mae pob cartref yn agored i bawb, i'r Cymry, haelioni a lletygarwch yw'r rhinweddau pennaf.
|
Y penteulu oedd yn gyfrifol am ddilynwyr y tywysog ac fel rheol roedd yn perthyn iddo.
|
Darluniau o lawysgrif 28 Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
|
|
Y stiward oedd yn gyfrifol am faterion milwrol ac roedd hefyd yn gweini'r tywysog yn ystod y prydau bwyd.
|
Darluniau o lawysgrif 28 Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
|
Roedd gan bob tywysog Cymreig blas a swyddogion ei hun: y distain oedd yn gyfrifol am faterion milwrol, gwas ystafell a ofalai am yr ystafell wely ac am ddillad ac arian y tywysog; y pencerdd oedd prif fardd y deyrnas, bardd y teulu oedd bardd y plas a'r ynad llys oedd barnwr y llys a'r ymgynghorydd cyfreithiol.
Symudai'r llys gyda'r tywysog ar ei gylchdeithiau o gwmpas ei diroedd. Roedd yn rhaid i dywysog fod yn amlwg. Buan y buasai rheolwr anweladwy yn dod yn arweinydd dibwys. Gwobrwywyd y dilynwyr ffyddlon ar adegau bwyd ac roedd yr eisteddleoedd wedi'u pennu'n ofalus.
|
Yn ciniawa yn llys y tywysog - delwedd yn seiliedig ar ddarlun mewn llawysgrif canoloesol.
gwybodaeth mwy
|
Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth
|
Roedd ochr ddiwylliannol fywiog i'r llys. Byddai'r ffigwr pwysig, y pencerdd, a oedd wedi cael hyfforddiant am nifer o flynyddoedd, yn canu clodydd y tywysog, ei ryfelwyr a'u cyndeidiau. Roedd ef wedi etifeddu traddodiad y gellid ei olrhain yn ôl i Daliesin, y bardd o'r 6ed ganrif. Roedd Owain Cyfeiliog, tywysog Cymreig o'r 12ed ganrif yn fardd yn ei rinwedd ei hun ac ysgrifennodd yr Hirlas Owain.
Enillodd llenyddiaeth Gymraeg ei phlwy yn y 12 ed ganrif. Llwyddodd yr iaith i oroesi goresgyniad y Normaniaid a sefydlodd gysylltiadau newydd ag Ewrop. Dechreuodd Cymru allforio ei thraddodiad llenyddol, storïau Brenin Arthur yn fwyaf nodedig. Roedd Arthur wedi ysbrydoli tywysogion a rhyfelwyr Cymru ers talwm a chwedlau Arthur oedd y storïau mwyaf poblogaidd yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol.
|
Trwy lyfr Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae, daeth Arthur yn enwog ar draws gorllewin Ewrop.
|
Roy.20 A II,f.4, Y Llyfrgell Brydeinig
|
|