" Llochesodd y Brythoniaid, a oedd yn dal yn fyw, yn y rhannau hyn pan feddiannodd y Sacsoniaid yr ynys am y tro cyntaf. Nis darostyngwyd hwy yn llwyr, gan y Saeson na'r Normaniaid ers hynny." Gerallt Gymro, Disgrifiad o Gymru, 1194
|
![]() |
Telynor y llys - delwedd yn seiliedig ar ddarlun mewn llawysgrif canoloesol. |
|
|
Pan ysgrifennodd Gerallt ei lyfr ar Gymru, roedd y wlad wedi'i rhannu'n dair brenhiniaeth bwysig: Gwynedd, Powys a'r Deheubarth yn ogystal â nifer o arglwyddiaethau llai. Nid oedd y ffiniau yn sefydlog am lawer o amser. Roedd priodasau yn uno breniniaethau, tra roedd etifeddion gwrthwynebus yn eu chwalu. Dim ond arweinwyr mawr fel Hywel Dda a Gruffudd ap Llywelyn lwyddodd i uno Cymru, a dim ond am gyfnodau byr y llwyddont hwy.
Lleoedd hanesyddol a phwysig Cymru 1100 -1300
Map Fersiwn Fawr
Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth
Roedd uno'r wlad yn anodd. Ni allai rheolwyr Powys anwybyddu eu cymdogion dwyreiniol. Ond, gallai Gwynedd, gyda'i mynediad i'r môr a'i mynyddoedd, bob amser sicrhau harbwr o annibyniaeth. Roedd daearyddiaeth y wlad yn hybu teyrngarwch lleol ac ni allai unrhyw frenhiniaeth unigol reoli'r gweddill yn barhaol.
Er hynny, roedd gan Gymru lawer i'w huno e.e. ei hiaith a'i deddfau. Roedd i'r bobl eu nodweddion cenedlaethol cyffredinol hefyd, fel a nododd Gerallt:
". ysgafn ac ystwyth, ffyrnig yn hytrach na chryf ac yn gwbl ymroddgar i ddefnyddio arfau ac yn angerddol o blaid eu rhyddid; amddiffyn eu mamwlad yw eu diddordeb pennaf." |
![]() |
Ymladd Milwyr |
|
|
Byddai angen y nodweddion hyn ar y Cymry o 1100 i 1300.
Ganwyd Gerallt yng Nghastell Maenorbyr, Sir Benfro, roedd yn glerigwr â chysylltiadau da, roedd yn perthyn i deuluoedd brenhinol Cymru ac i arglwyddi Normanaidd y Mers. Roedd yn awdur a sylwebydd pwysig ar Gymru.
Fel Cymro Normanaidd roedd yn gas ganddo'r Saeson ac ysgrifennodd:
"Nhw yw'r hil fwyaf diwerth o dan y nefoedd. Yn eu gwlad hwy eu hunain maent yn gaethweision i'r Normaniaid, ac yng Nghymru bugeiliaid gwartheg a glanhawyr carthffosydd ydynt."
Llawysgrif canoloesol yn dangos mynach.
Ms R 17.1 f.283v © Prifathrawon a Chymrodyr Coleg y Drindod, Caergrawnt.