 |
|
Llun o ffarmwr |
Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth
|
Nid cymdeithas gyntefig oedd Cymru yn Oes y Tywysogion.
Roedd tri prif grwp cymdeithasol: yr uchelwyr - y dosbarth uchaf, y bonheddwyr - y rhyddion, a'r taeogion - y gwerinwyr caeth. Roedd gan bob grwp ei rôl mewn cymdeithas.
Trigai'r taeogion mewn pentrefi bychain ar yr iseldiroedd ffrwythlon. Roeddent yn cael eu trefnu gan faer y biswail a hwy oedd yn cyflenwi anghenion y llys tywysogaidd. Roedd yn rhaid iddynt wneud gwaith fferm i'r tywysog bob blwyddyn hefyd. Gan eu bod ynghlwm wrth y tir ni allent adael eu pentref hwy eu hunain. Roedd eu cnwd âr yn hanfodol i Gymru. Roedd Edward I yn sylweddoli hyn ac ym 1277, goresgynnodd ei filwyr Sir Fôn yn sydyn a chipiont y cynhaeafyd.
Roedd cysylltiad economaidd rhwng yr iseldir a'r ucheldir. Bob haf symudai'r cymunedau amaethyddol o'r hendref, sef eu prif anheddiad ar yr iseldir, i'r hafod a'i dir pori ar yr ucheldir. Yn gyffredinol, bonheddwyr, a drigai mewn grwpiau carennydd, gyda phawb yn gofalu am dir ei dylwyth - gwely - oedd ffermwyr yr ucheldir. Roeddent yn rhoi gwasanaeth milwrol i'r tywysog, ond nid oeddent yn gwneud gwaith gwasaidd fel y taeogion. Roedd ffermydd yr ucheldir hefyd yn hanfodol i Gymru. Roeddent yn galluogi'r Cymry i gadw eu hannibyniaeth economaidd a gwleidyddol pan roedd arglwyddi'r Mers yn meddiannu'r iseldiroedd ffrwythlon.
Er nad oedd y Cymry yn bobl drefol yn ôl y farn draddodiadol, sefydlwyd dros 80 o drefi yn y cyfnod 1100-1300. Datblygodd fwy o drefi yn arglwyddiaethau'r Mers oherwydd roedd yr ardaloedd hyn yn gyfoethocach, ond roedd y tywysogion Cymreig hefyd yn hybu trefi i ddatblygu, ger eu cestyll yn aml. Roedd masnachu yn cynyddu ochr yn ochr â'r trefi hyn ac roedd Cymru yn allforio nwyddau craidd fel gwartheg, crwyn, cnu a chaws. Mewnforiwyd nwyddau angenrheidiol fel halen, gwenith a haearn, ond byddai dibynnu ar y mewnforion hyn yn wendid yn erbyn Brenin ymosodgar Lloegr.
 |
| Caed llefrith, cig, gwlân a chrwyn o ddefaid.
gwybodaeth mwy |
Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth
|



|
|
Llun o anifeiliad |
Darluniau o lawysgrif 28 Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
|
 |
| Argraff artist o fferm Gymreig, tua 1200, yn seiliedig ar gloddiadau o Gefn Graeanog.
Gwybodaeth mwy |
Roger Jones, Cadw. Hawlfraint y Goron. |
|