Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Y Tywysogion ac Arglwyddi'r Mers

 
Llun o Marchog Canoloesol -yn gynyddol gwisgai barwniaid Cymru a'r gororau yr un fath boed ar faes y brwydro ac oddi arno.

Marchog Canoloesol -yn gynyddol gwisgai barwniaid Cymru a'r gororau yr un fath boed ar faes y brwydro ac oddi arno.

Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth

Roedd gan dywysog Cymreig llwyddiannus nifer o wrthwynebwyr i'w gorchfygu. I ddechrau, roedd yn rhaid iddo naill ai orchfygu neu brynu llonydd gan ei frodyr. Ac yna roedd yn rhaid iddo ystyried ei gymdogion Ffrengig eu hiaith: arglwyddi'r Mers.

Barwniaid Normanaidd â thrachwant am dir oedd arglwyddi'r Mers Gwilym Goncwerwr greodd y rhai cyntaf ym 1066-67: Hugh o Avranches, Iarll Caer, Roger Montgomery, Iarll Amwythig a William FitzOsbern, Iarll Henffordd. Sicrhau'r ffin a darostwng y Cymry oedd eu swyddogaeth. Roedd ganddynt awdurdod i fachu unrhyw beth a allent. Roedd trachwant eu tenantiaid Normanaidd am diroedd a theitlau hyd yn oed yn fwy. Gyda'i gilydd fe droesant Fers Cymru yn orllewin gwyllt.

Cafodd y Normaniaid lwyddiant cychwynnol da gan gyrraedd Caernarfon ac Aberystwyth yn y gorllewin. Er hynny, fe ymgymeront â gormod a llwyddodd y tywysogion Cymreig i adennill rhai o'r tiroedd yr oeddent wedi'u colli. Erbyn 1100 roedd Cymru wedi'i rhannu'n "Pura Wallia" o dan reolaeth y tywysogion Cymreig a "Marchia Wallia" o ran reolaeth y barwniaid Normanaidd. Ni chafodd y ffin erioed ei gosod, oherwydd roedd un ochr yn sydyn i ymelwa ar unrhyw wendid a ddangosai'r llall.

Roedd pwer brenin Lloegr yn bwysig hefyd. Roedd brenhinoedd cryf fel Harri I (1100 - 1135) yn busnesa'n barhaus. Fodd bynnag, bu'r rhyfeloedd cartref yn ystod teyrnasiad Steffan (1135 - 1154), ac o dan Harri III (1216 - 1272) yn ddiweddarach, yn fodd i'r tywysogion Cymreig gadarnhau eu safle. Er eu bod yn cystadlu a'i gilydd, byddai'r tywysogion ac arglwyddi'r Mers yn ymgynghreirio yn erbyn gwrthwynebydd cyffredin a byddai tywysog o dan fygythiad hyd yn oed yn gofyn i frenin Lloegr am help. Roedd tywysogion Powys yn aml yn ceisio'r fath help ar gyfer eu brwydrau â thywysogion Gwynedd.

Llun o Cymru ym 1234 yn dangos y rhaniad rhwng Pura Wallia a Marchia Wallia - cliciwch am Map Fersiwn Mawr

Cymru ym 1234 yn dangos y rhaniad rhwng Pura Wallia a Marchia Wallia.
Map Fersiwn Mawr

Allwedd
  Pura Walia (Cymru annibynnol)
  Tiroedd a enillodd Llywelyn ym 1234
  Marchia Wallia (tiroedd a reolwyd gan Farwniaid y Gororau)

Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth

 

Llun o Castell Dolwyddelan

Defnyddiodd Llywelyn Fawr, tywysog Gwynedd ac adeiladwr y castell hwn yn Nolwyddelan, briodas fel modd o lunio cynghrair ag arglwyddi'r Mers. Priododd ei ferch, Helen â John, iarll Caer. Priododd ei fab Dafydd ag Isabella, merch Gwilym Brewys, arglwydd Aberhonddu, Buellt a'r Fenni.

RCAHMW Hawlfraint y Goron

 

 
English
 

Cyswllt i

Cymru yn Oes y Tywysogion
Y Tywysog Cymreig
Y Tywysogion ac Arglwyddi'r Mers
Cestyll
Crefydd
Bywyd y Llys
Bywyd yng Nghymru
Yr Ymderchion i gael Annibyniaeth
Concwest ac Adladd
Cymru
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint