Crefydd

"Fel y gallaf i dystio, mae'r Cymry yn talu fwy o barch nag unrhyw bobl arall i'w heglwysi, i ddynion mewn urddau, i greiriau'r saint, llyfrau sanctaidd a'r Groes ei hun"

Gerallt Gymro, Descriptio Kambriae, 1194.
Llun o mynach

Llun o mynach

Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth

Roedd gan Gymru ei thraddodiad crefyddol ei hun yn seiliedig ar yr eglwys Geltaidd gynnar. Trigai mynachod mewn cymunedau crefyddol annibynnol, clasau, o dan arweiniad abadau dylanwadol. Roedd pob mynachlog yn wahanol, roedd rhai yn enwog yn lleol am eu defosiwn ysbrydol ac eraill fel canolfan dysg.

Creodd rhai o'r traddodiadau Cymreig, fel caniatáu i abadau briodi, neu gael safle etifeddol yn yr eglwys, syndod i'r Normaniaid. Gwaharddodd y clerigwyr Normanaidd yr arferion hyn wrth i urddau cyfandirol fel y Benedictiaid a'r Awstiniaid feddiannu mynachlogydd lleol y Mers. Roedd yr urddau hyn yn ffafrio eu haelodau hwy eu hunain a chafodd y Cymry eu heithrio. Yn fuan roedd yr eglwys Normanaidd yn cael ei hystyried fel gorchfygwr arall i'w ddioddef neu i'w yrru ymaith.

Ar ddiwedd y 12 ed ganrif, canfu'r tywysogion Cymreig urdd grefyddol a oedd yn addas ar eu cyfer hwy. Mynachod o urdd a'i gwraidd ym Mwrgwyn, y tu hwnt i ddylanwad y brenin Seisnig, oedd y Sistersiaid. Roedd eu delfrydau crefyddol o symlrwydd a defosiwn yn agos i rai'r eglwys Gymreig draddodiadol. Erbyn 1202, roedd y Sistersiaid wedi lledaenu o Hen Dy Gwyn ar Daf ac Ystrad Fflur yn y Deheubarth i Lyn y Groes ym Mhowys Fadog.

Gan fod ganddynt noddwyr tywysogaidd hael a chan nad oedd ganddynt feibion i rannu'r etifeddiaeth datblygodd y mynachlogydd Sistersiaid yn ystadau anferth yn fuan. Roedd gan Abaty Aberconwy dros 40,000 erw. Datblygodd y mynachod amaethu defaid ar raddfa fawr ac ysgogwyd economi Cymru gan eu hangen am grefftwyr medrus.

Cafodd y tywysogion fudd o hyn hefyd. Roedd yr Abatai yn cyflenwi cronfa o glercod addysgiedig. Drwy ddefnyddio rhwydwaith mewnol yr Eglwys gallai eu noddwyr fanteisio ar yr abatai hefyd i ddatblygu eu diddordebau gwleidyddol. Ac yn olaf, roeddent yn darparu cartref ymddeol i'r rhai mwyaf bydol o dywysogion hyd yn oed. Ymddeolodd Owain Cyfeiliog, bardd a thywysog rhyfelgar o'r 12ed ganrif o'i ddyletswyddau tywysogaidd a daeth yn fynach yn Ystrad Marchell.

Abaty Sistersaidd Glyn y Groes y tu allan i Langollen, fe'i sefydlwyd gan Madog ap Gruffudd Maelor, tywysog Powys Fadog, ym 1202.
CADW Hawlfraint y Goron


Adluniad darluniadol o gôr a seintwar y tu mewn i abaty Glyn y Groes.
T Ball, CADW. Hawlfraint y Goron


Teils addurniadol o Abaty Ystrad Fflur
RCAHMW. Hawlfraint y Goron.

Y drws mawr yn Abaty Ystrad Fflur. Rhoddodd y Brenin John orchymyn i ddinistrio'r abaty ym 1212 oherwydd ei fod "yn llochesu ein gelynion."
RCAHMW. Hawlfraint y Goron.

yn ôl i'r brig