![]() |
![]() |
|
Brenin canoloesol a'i hebog |
|
Yn ystod y 13eg ganrif roedd tywysogion Gwynedd yn ceisio ennill annibyniaeth ar frenhinoedd Lloegr tra roedd arglwyddi Cymru yn gwrthsefyll dominyddiaeth tywysogion Gwynedd. Roedd llwyddiant yn y frwydr hon yn dibynnu ar gryfderau neu wendidau gorsedd Lloegr yn fwy nag ar ddim arall. Roedd gan frenhinoedd Lloegr gynllun pendant ar gyfer Cymru: torri crib ei thywysogion.
Cychwynnodd y ganrif yn wael pan orfu i Llywelyn Fawr, tywysog Gwynedd, gytuno mai'r Brenin John oedd ei fechdeyrn ym 1201. Er gwaethaf hynny, llwyddodd Llywelyn i gryfhau ei safle yn raddol tra roedd John yn rhy brysur yn ymladd â'i farwniaid ac yn arwyddo'r Siarter Fawr. Er gwaethaf y gynghrair ofnadwy rhwng barwniaid y Mers a'r arglwyddi Cymreig; erbyn ei farwolaeth ym 1240 roedd Llywelyn wedi llwyddo i sicrhau mai Gwynedd oedd y prif bwer yng Nghymru.
Mynnodd Harri III bod y tywysog Dafydd yn rhoi ei frawd, Gruffudd, yn wystl iddo am ymddygiad da. Bu Gruffudd farw ym 1244 tra'n ceisio dianc o Dwr Llundain.
Roy.14 C VII, f.136, Y Llyfrgell Brydeinig
Darlun o Chronica Majora, Matthew Paris, yn dangos Llywelyn Fawr ar ei wely angau gyda'i feibion, Dafydd a Gruffudd.
©Prifathrawon a Chymrodyr Coleg Corff Crist, Caergrawnt
Stori am ei ymgais i ddianc rhag cael ei drin fel dim ond barwn arall gan frenin Lloegr yw hanes gyrfa Llywelyn ap Gruffudd. Daeth llwyddiant i'w ran i ddechrau pan ehangodd ei reolaeth a chyhoeddodd ei hun yn dywysog Cymru ym 1258. Yna manteisiodd ar y rhyfel cartref yn Lloegr i gael cydnabyddiaeth i'w statws newydd. Ym 1267 cytunodd Harri III bod "y brenin, yn unol â chytundeb yr Arglwydd Edward, yn rhoi teitl Tywysog Cymru i Llywelyn a'i olynwyr, a gwrogaeth a llw ffyddlondeb holl farwniaid Cymreig Cymru hefyd."
| Allwedd | |
| Tywysogaeth Cymru | |
| Gwynedd, tywysogaeth Llywelyn ap Gruffudd | |
| Tiriogaethau a goncrwyd gan Llywelyn ap Gruffudd | |
| Tiriogaethau deiliaid Llywelyn | |
| Mers Cymru | |
| Arglwyddiaeth barwniaid y Gororau | |
| Arglwyddiaethau brenin Lloegr | |
|
|
Byrhoedlog fu buddugoliaeth Llywelyn fodd bynnag. Roedd yn gas gan arglwyddi Cymru a barwniaid y Mers statws newydd Llywelyn, ond Edward I, brenin newydd Lloegr oedd yr un mwyaf penderfynol i wrth-droi cytundeb 1267. Yn wahanol i sefyllfa ei dad nid oedd dim gartref yn mynnu ei sylw ac roedd ganddo'r adnoddau i orchfygu Llywelyn.
Defnyddiodd Edward I, a lysenwyd yn Longshanks, y gyfraith i ddominyddu ei farwniaid. Ni chaent beri cywilydd iddo ef fel y gwnaethant i'w dad, Harri III. Roedd Edward I yn awyddus i sicrhau ei hawliau ac i ddelio â 'deiliaid gornerthol.'
Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth
Cythruddwyd Llywelyn gan benderfyniad Edward I i orfodi ei hawliau yng Nghymru a gwrthododd dalu gwrogaeth iddo. Roedd yr esgus hwn yn ddigon i'r brenin ac ym 1276 cyhoeddodd fod Llywelyn yn wrthryfelwr a chynlluniodd wrthryfel hynod o drefnus ar Gymru Llywelyn. O fewn blwyddyn ildiodd tywysog Cymru.