 |
|
Telynor y llys- yn seiliedig ar ddarlun o lawysgrif canoloesol. |
Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth
|
|
Mae'r Cymry yn gwerthfawrogi genediaeth enwog, a disgyniad bonheddig yn fwy na dim arall yn y byd. Byddai'n well ganddynt briodi i deulu bonheddig na theulu cyfoethog.
|
Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Treftadaeth
|
Yn draddodiadol gelwid rheolwyr Cymru yn frenhinoedd. Yn y 12ed a'r 13eg ganrif dewisodd y rheolwyr llwyddiannus yng Nghymru gael eu galw'n dywysogion. Yn hytrach na'i fod yn deitl israddol dangosai eu bod yn wahanol i fân frenhinoedd cwerylgar y gorffennol.
Roedd yn rhaid i dywysog fod o dras frenhinol, felly roedd achau yn bwysig. Yng Nghymru roedd pob mab yn etifedd, felly roedd brodyr yn wrthwynebwyr i'w gilydd yn aml. Ni allai unrhyw dywysog fod yn ben hyd nes y byddai wedi delio â'i frodyr.
Roedd yn rhaid i dywysog llwyddiannus gyflawni delwedd arwrol y rhyfelwr. Roedd bri ac enw da ar faes y gad yn nodweddion hanfodol. Canai'r beirdd glodydd tywysogion o'r fath gan anwybyddu rhai mwy heddychlon.
Ysgrifennodd Cynddelw Brydydd Mawr farddoniaeth " Er Clod i Owain Gwynedd" ar ddiwedd y 12ed ganrif. Roedd Owain Gwynedd yn dywysog llwyddiannus ar Wynedd. Roedd y dyfyniad isod yn nodweddiadol o'i ddydd .
"I praise a patron high-hearted in strife,
Wolf of warfare, challenging, charging,
.In arms against Angles in Tegeingl's lands,
Blood spilling in streams, blood pouring forth,
Dragons encountered, rulers of Rome,
A prince's heir, red their precious wine.
In strife with the Dragon of the east,
Fair Western Dragon, the best was his."
 |
Llawysgrif 28 Peniarth, f.1v. © Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Roedd gan y tywysog ei deulu - sef gwarchodlu yn hytrach na theulu fel ein hystyr modern ni o'r gair. Criw o ymladdwyr â statws bonheddig, uchelwyr, oedd y teulu. Arweinid y teulu gan berthynas brenhinol i'r tywysog, sef y penteulu. Yn ystod rhyfel gallai'r tywysog hefyd alw ar ei fonheddwyr, sef y llu, i wasanaethu yn ei fyddin.
|
|
Cenwch yr utgorn i frwydro a rhuthra'r gwerinwr o'i aradr i gymryd ei arfau mor gyflym â'r gwyr o'r llys. Mae'r Cymry yn ymroddedig iawn i ddiogelu eu gwlad a'u rhyddid; byddant yn brwydro dros y rhain yn dioddef caledi ac yn codi eu harfau a byddant yn fwy na pharod i aberthu eu bywydau. |
Llawysgrif 28 Peniarth, f.1v. © Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Roeddent i gyd yn awyddus i wasanaethu, fel y tystiodd Gerallt Gymro: "Seiniwch utgorn y frwydr a gedy'r gwerinwr ei aradr i gasglu ei arfau cyn gyflymed â'r gwr llys o'i lys." Byddai angen mwy na dewrder yn unig, fodd bynnag, i amddiffyn annibyniaeth y Cymry.
 |
|
Daw'r darlun hwn o frenin Cymreig o lawysgrif yn cynnwys Deddfau Hywel Dda. |
Llawysgrif 28 Peniarth, f.1v. © Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
 |
|
Roedd gorfodi a gweinyddu'r gyfraith hefyd yn rhan o swyddogaeth tywysog. |
Llawysgrif 28 Peniarth, f.1v. © Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
|