Mae Prydain wedi bod yn rhyfela sawl gwaith yn ystod y 150 mlynedd diwethaf.
Yn yr unfed ganrif ar hugain, daw rhyfel in tai trwy newyddion y teledu bedair awr ar hugain y dydd. Cyn yr ugeinfed ganrif roedd newyddion o faes y gad yn gyfyngedig a phapurau newydd oedd prif ffynhonnell swyddogol newyddion tan yr Ail Ryfel Byd.
Maer arddangosfa hon yn defnyddio adroddiadau o bapurau newydd lleol a disgrifiadau uniongyrchol a gofnodwyd ar y pryd i ddweud hanesion sut y gwasanaethodd pobl o Wrecsam yn lluoedd arfog Prydain ar adeg rhyfel. Dawr adroddiadau air am air o bapurau newydd a gyhoeddwyd ar y pryd.
Maer arddangosfan canolbwyntio ar Ryfel y Crimea (185356), Rhyfel De Affrica (18991902), y Rhyfel Byd Cyntaf (19141918) ar Ail Ryfel Byd (19391945).
Ar ddiwedd yr arddangosfa mae lle ar gael i bawb fyddain hoffi coffâu gwasanaeth eu perthnasau au cyndadau ar adeg rhyfel, ac i gydnabod milwyr, morwyr ac awyrenwyr lleol syn ymladd heddiw.
Rhoddodd papurau newydd lleol adroddiadau manwl iawn ac, felly, dim ond dyfyniadau syn cael eu defnyddio yn yr arddangosfa hon.
Os hoffech wybod mwy, gallwch weld rhai papurau newydd lleol ers 1857 yng Nghanolfan A.N.Palmer ar gyfer Astudiaethau Lleol ac Archifau.
Rydym bob amser yn awyddus i dderbyn deunydd archifol a phethau cofiadwy cysylltiedig â gwasanaeth pobl leol yn y lluoedd arfog.
Cydnabyddiaeth:
W. Alister Williams, John Warburton-Lee, Peter Stubbs, Susan Hughes, staff Canolfan A.N.Palmer ar gyfer Astudiaethau Lleol ac Archifau, Hughes Design Ltd, a Bark Design.
Map Rhyfel o Ewrop
Map Rhyfel o’r Byd
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.