Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Lle Peryglus

 

Yn y 1800au, roedd Iechyd a Diogelwch yn golygu gofalu amdanoch chi eich hun ac am eich gilydd. Ni wnaeth y llywodraeth ddechrau archwilio i weld a oedd pyllau plwm yn lleoedd diogel i weithio ynddynt tan 1873. Doedden nhw ddim!

DAMWAIN GLODDIO ERCHYLL YN Y MWYNGLAWDD
MARWOLAETH FRAWYCHUS PEDWAR DYN

Digwyddodd damwain ofnadwy yng ngwaith Plwm Unedig y Mwynglawdd nos Fercher pan laddwyd pedwar dyn yn y fan a'r lle yn y modd mwyaf erchyll. Oddeutu 10.30 ar y noson honno roedd pedwar o ddynion a oedd yn rhan o'r sifft nos yn cael eu gostwng mewn cludydd i lawr Siafft y Ddôl, pan, drwy ryw nam, torrodd y brif bowlten lygadog a oedd yn dal y cludydd rhyw 180 llath i lawr o'r wyneb. Hyrddiwyd y cludydd yn cynnwys y pedwar dyn i waelod y siafft , dyfnder o ryw 400 llath, gan ei falurio. Wrth gwrs, lladdwyd y dynion yn syth. Enoch Jones, gwr priod; John Foulkes, gwr sengl; David Davies, gwr sengl a Donald Douglas gwr sengl, oeddynt.

Wrexham Advertiser,
9 Chwefror 1901

 

Cynhaliwyd cwest mewn tafarn leol. Dywedodd y cwmni mwyngloddio bod y bowlten wedi'i chynllunio i gario pum tunnell. Roedd y caets gyda'r dynion yn pwyso llai na thunnell. Gofynnodd y crwner pam nad oedd cadwyni wedi'u cysylltu â'r caets fel mesur diogelwch. Roedd Archwiliwr y Mwyngloddiau wedi dweud bod y caets yn ddiogel, felly nid oedd y cwmni yn meddwl bod angen cadwyni diogelu.

Llun o Simon Hughes a John Williams yn y caets yn Siafft Lloyd
Simon Hughes a John Williams yn y caets yn Siafft Lloyd.
© Archifdy Sir Ddinbych
Llun o mwynwr: 'Dydy hi ddim diogelach ar yr wyneb. Yr wythnos diwethaf bu John Williams, llanc 17 oed, farw ar ol syrthio I'r malw'r mwyn.'
Llun o mwynwr: 'Dydy hi ddim diogelach ar yr wyneb. Yr wythnos diwethaf bu John Williams, llanc 17 oed, farw ar ol syrthio I'r malw'r mwyn.'

Crynhodd y crwner drwy ddweud: 'Wrth gwrs, does dim bai o gwbl ar y cwmni am beidio â sicrhau bod cadwyni yno. Mae'n gwbl amhosibl dweud sut ddigwyddodd y ddamwain hon, ond mae'n dangos yr angen i wneud y cludydd ddwywaith mor ddiogel.'

Y canlyniad: cafodd dyfarniad o farwolaeth ddamweiniol ei dwyn gan y rheithgor. Sicrhaodd Mr Wynne, Ysgrifennydd y Cwmni bod cadwyni yn cael eu hychwanegu i'r caets. Claddwyd Enoch Jones a John Foulkes ill dau ym mynwent Capel y Wern, ychydig bellter yn nes ymlaen ar y ffordd hon. Claddwyd Donald Douglas yng Nghaer a David Davies ym mynwent eglwys y Mwynglawdd. Cafodd pedwar bywyd eu torri'n fyr a gadawyd gweddw a phump o blant.

Llun o Y Marwdy a'r Efail ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd
Y Marwdy a'r Efail ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd

 
English
 

Cyswllt i

- Cyflwyniad
- Oes Aur Cloddio
- Mwynwyr y Canol Oesoedd
- Metelau Dwys
- Mwynwyr Modern
- Datguddio'r Mwynglawdd
- Bywyd Mwynwyr - Simon Hughes
- Ty Injan Siafft y Ddôl
- Lle Peryglus
- Fyny a Lawr
- Oriel
- Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint