 |
Owen Jones, y cigydd a'r cymwynaswr lleol o Laneurgain.
© WCBM & Bark Design |
Croeso i Ty Injan Siafft y Ddôl Arlein
Yn y 17 eg ganrif y prynodd Owen Jones diroedd yma gyntaf. Bu farw ym 1659 a gadawodd ei eiddo, tir fferm gwael ar y pryd, i gwmnïau dinas Caer i ofalu am y tlodion. Elwodd swyddogion y cwmnïau yn dda o'i gymynrodd, ond nid felly, ysywaeth, y tlodion.
Mae canolfan ymwelwyr Pyllau Plwm y Mwynglawdd, Ty Injan Siafft y Ddôl a'r lloriau trin i gyd ar Diroedd y Ddinas. Gelwir y ty injan yn Dy Injan y Ddinas hefyd. Y City Arms yw enw'r dafarn leol.

Daeth llwyddiant i ran y mwynglawdd yn y 18 fed ganrif. Rhwng 1761 a 1781, derbyniodd cwmnïau'r ddinas, fel perchnogion yr hawliau mwynol £13,000 bron mewn breindaliadau.
Ffynnodd y mwynglawdd unwaith eto ar ôl 1849. Buddsoddodd Cwmni Pwll Plwm y Mwynglawdd mewn injan bwmpio newydd ym 1857. Ymhen blwyddyn gosodont injan weindio newydd i godi'r plwm ac i weithio'r peiriant malu mwyn. Yn fuan wedyn adeiladodd y cwmni finiau mwyn, lloriau trin ar gyfer didoli'r plwm oddi wrth y gwastraff a'r ty mwyn newydd ar gyfer sychu, pwyso a samplo'r plwm yn barod i'w werthu. Roedd yr holl offer yma yn galluogi'r mwynwyr i gloddio mwyn o'r gwythiennau dyfnaf yn y Mwynglawdd, hyd at 400 metr o dan yr wyneb.
Ym 1884 agorwyd llawr trin newydd gyda'r holl beiriannau diweddaraf yn Siafft Roy. Daeth safle Siafft y Ddôl yn domen sbwriel. Yn raddol claddwyd y lloriau trin. Dim ond Siafft y Ddôl ei hun oedd yn parhau mewn defnydd ac fe'i caewyd hi ym 1914.

Newid yr Olwyn, tua 1908
© Archifdy Sir Ddinbych
Yr injan bwmpio y tu mewn i dy injan Siafft y Ddôl: Silindr 40 modfedd, strôc 9 tr, 8 tr yn y pwll, tair strôc y funud, o wneuthuriad Cernywaidd. Bocs cydbwysedd 15 tunnell. Roedd yn codi dwr 162 llath fyny'r siafft mewn lifft pedair bwced. Stopiodd yr injan weithio ym 1909.
© Archifdy Sir Ddinbych
|