|

Cibl
Defnyddiwyd ciblau fel y rhain i gludo deunyddiau i fyny ac i lawr y siafftau. Mae'n debyg y defnyddiwyd y cibl hwn ar gyfer llwythau llai neu ar gyfer siafftau bychan iawn. Byddai mwyn yn cael ei gludo wrth ddefnyddio cynhwysydd mwy. Gellwch barhau i weld cibl mawr yn un o luniau Peiriandy Siafft y Ddôl. Benthycwyd gan Mr Selwyn Edwards.
(136.4)
|