|

Gweithwyr wyneb a malwyr mwyn
© Archifdy Sir Ddinbych
Plwm
Mae pobl wedi defnyddio plwm ers dros 8,000 o flynyddoedd. Mae'n hydrin ac felly roedd yn hawdd gwneud gwrthrychau defnyddiol ohono. Oherwydd nad yw'n cyrydu mae'n para am amser maith.
Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio plwm ar gyfer eu pibellau dwr. Mae ein gair ni am blymwr yn dod o'r gair Lladin am blwm, sef 'plumbum'. Yn yr oesoedd canol roedd plwm yn cael ei ddefnyddio fel pwysau ar fframiau gwau ac ar gyfer toeau eglwysi, mynachlogydd a chestyll.
Defnyddiwyd plwm mewn drychau, piwter ac mewn gwydr. Erbyn amser Elisabeth I roedd plwm yn cael ei ddefnyddio mewn colur, tra roedd y mysgedau newydd yn tanio peledi plwm.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar ymddangosodd plwm ym mhobman: mewn paent, batris, fel sodr ac mewn caniau tun. Yn anffodus, mae plwm yn wenwynig i bobl ac i anifeiliaid. Felly, defnydd cyfyngedig a wneir ohono bellach.
Sinc
Roedd y Groegiaid a'r Rhufeiniad yn defnyddio calamin, sef ffurf naturiol o sinc i wneud efydd. Wrth ychwanegu calamin at gopr roedd aloi melyn iawn gyda chryn alw amdano yn cael ei gynhyrchu. Er, ni chafodd sinc ei hun ei ddarganfod tan 1520.
Yn ystod y 19 eg ganrif, meistrolodd diwydianwyr yr arfer o alfaneiddio haearn gan ddefnyddio sinc. Roedd y sinc yn rhwystro'r haearn rhag cyrydu. Enillodd un cynnyrch, haearn rhychog ei blwy yn sydyn. Roedd gan nifer dirifedi o adeiladau diwydiannol doeau o haearn rhychog. Weithiau ceid hyd yn oed adeiladau cyfan, wedi'u hadeiladu ohono.

Y locomotif Henrietta ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd. Roedd gan y mwyngloddiau eu llinell leol eu hunain.
© Archifdy Sir Ddinbych
|