|
Croeso i Byllau Plwm y Mwynglawdd.
Y Mwynglawdd - y fan lle'r oedd mwyngloddio mor bwysig gel y cafodd y pentref ei enwi ar ei ôl. Daw enw'r Minera o'r gair Lladin canoloesol am fwynglawdd neu fwyn.
Oddi tanoch ceir metel gwerthfawr y mae pobl wedi'i ddefnyddio am dros 8,000 o flynyddoedd - plwm. Yma yn Siafft y Ddôl mae'r plwm yn ddwfn o dan ddaear. Er, ar Fynyddoedd Eisteddfod ac Esclusham, uwchben y Mwynglawdd, lle mae'r plwm ar yr wyneb neu'n agos i'r wyneb, roedd y gweithfeydd cyntaf.
Mwynwyr gan Llanarmon-yn-Iâl.
© Archifdy Sir Ddinbych
Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf am fwynwyr y Mwynglawdd yn dyddio o 1296 pan huriodd Edward I nhw yn ei fwyngloddiau newydd yn Nyfnaint. Gorchmynnwyd y mwynwyr i gyflwyno eu hunain i wasanaethu. Ni aeth bob un ohonynt gan fod gwaith yn mynd rhagddo ym mhyllau plwm y Mwynglawdd tan y Pla Du (1349).

Torri'r plwm yn null y 16eg ganrif
© Georgius Agricola & Carl Parry
Yn ystod y 15 fed ganrif ychydig o waith mwyngloddio a wnaed gan fod gwrthryfel Owain Glyndwr a Rhyfeloedd y Rhosynnau wedi achosi dirywiad yn yr economi.
O dan y Tuduriaid (16 eg ganrif) roedd y tirfeddianwyr a'r masnachwyr lleol yn ymdrechu'n rheolaidd i ailgychwyn y gwaith yn y mwyngloddiau. Nid oeddent yn llwyddo'n aml.
Ym 1527 talodd Sir John Chilston a Launcelot Lowther, dau swyddog lleol, 20 swllt y flwyddyn i gael yr hawliau mwyngloddio plwm lleol. Roedd y rhain yn cynnwys:
" holl fwyngloddiau plwm, wedi'u hagor ac i'w hagor, wedi'u gadael a heb neb yn eu gweithio neu nad oedd cof am eu defnyddio, gyda phwerau, rhyddid ac awdurdod llawn i dyllu, suddo, cloddio, agor, chwilio a chanfod pob math o blwm, mwyn neu sypiau o blwm. "
Roedd ganddynt hawliau hefyd i gloddio glo a cherrig. Er hynny ni allent wneud elw. Dim ond perchnogion yr hawliau mwnol, tirfeddianwyr fel y Grosvenors, lwyddodd i wneud arian.
|