|
Terfynodd y gwaith mwyngloddio ym 1914. Hyd at y 1950au roedd y tomenni sbwriel anferth yn cael eu defnyddio ar gyfer graean gan adael tirwedd tocsig lleuadol.
Y Ty Injan yn Siafft y Ddôl, cyn ei adfer
Roedd y metelau dwys - plwm, sinc a chadmiwm yn y tomenni sbwriel yn risg i'r cyflenwadau dwr. Roedd y llwch yn broblem hefyd. Dyfeisiodd Cyngor Bwrdeistref Maelor Wrecsam ac Asiantaeth Datblygu Cymru gynllun i wneud Pyllau Plwm y Mwynglawdd yn ddiogel.
Dechreuwyd ar y gwaith ym 1988. O dan y tomenni sbwriel canfuwyd tystiolaeth o'r hen ddiwydiant cloddio plwm. Datguddiwyd hanes gorffennol y Mwynglawdd wrth i'r gwaith o adfer y safle fynd rhagddo. Roedd y tomenni sbwriel wedi diogelu'r archaeoleg. Wedi iddynt gael eu datguddio gallai'r gweddillion bydru'n sydyn. Roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd.

Safle Siafft y Ddôl cyn ei adfer

Safle Siafft y Ddôl ar ôl ei adfer
Yn Siafft Taylor dangosodd y gwaith cloddio sut yr oedd technoleg cloddio plwm wedi newid yn y 19 eg ganrif. Tra yn Siafft y Ddôl gellir mynd ar daith o gwmpas y safle i olrhain holl hanes plwm o ben y pwll i'r mwyn gwerthadwy. Daethpwyd o hyd i eiddo personol y mwynwyr hefyd ar safle Siafft y Ddôl. Golygodd y canfyddiadau hyn bod safle Siafft y Ddôl yn ddelfrydol ar gyfer ei adfer yn hanesyddol. Yn nechrau'r 1990au, ailadeiladwyd neu atgyfnerthwyd yr adeiladau a'r lloriau trin. Gosodwyd copïau o beiriannau ar sail archaeolegol y safle.
Mae'r gwaith yn dal i fynd rhagddo. Mae'r tywydd, pobl a thirlithriadau i gyd yn cael effaith ar y safle. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n gofalu am Byllau Plwm y Mwynglawdd ac yn sicrhau eu bod ar agor i ymwelwyr i weld beth sy'n weddill o'r rhan ddiddorol hon o'n treftadaeth ddiwydiannol.

Esgid mwynwr a ganfuwyd wrth gloddio yn y Mwynglawdd

Archeolegydd Diwydiannol wrth ei waith
|