|
Roedd mwynwyr plwm y Mwynglawdd yn ystod y Canol Oesoedd yn gymuned arbennig. Roedd dynion Cymreig a Saesnig yn dod i weithio yng ngweithfeydd plwm y Mwynglawdd. Fel rheol, amaethwyr oedd mwynwr y canol oesoedd. Roeddent yn mwyngloddio yn y cyfnod tawel hwnnw ar ddechrau'r haf cyn cychwyn ar y cynhaeaf. Nid oedd unrhyw waith mwyngloddio yn cael ei wneud yn ystod y cynhaeaf a thros y gaeaf.

Mwyngloddio: dulliau'r 16eg ganrif, 1536.
© Georgius Agricola & Carl Parry
Roedd gan y mwynwyr reolau mwyngloddio. Pan ganfuwyd gwythïen newydd o blwm byddent yn ethol 'bermaster'. Byddai'r 'bermaster' yn sicrhau bod y darn newydd yn cael ei rannu'n deg. Roedd y mwynwyr naill ai'n cloddio cyfres o siafftiau neu'n dilyn y wythïen drwy dyllu rhych anferth yn y ddaear.

Mwynwyr yn trin plwm mewn cynhwysydd golchi mwyn (buddle), 1536
© Georgius Agricola & Carl Parry
Mwynwyr oedd yn gwneud yr holl waith: cloddio'r mwyn, gwahanu'r metelau gwerthfawr a'r gwastraff, a thoddi'r plwm. Roedd yn rhaid i'r mwynwyr dalu ffi, a elwid yn 'loot' neu 'lot', i'r tirfeddianwyr ar yr holl blwm a werthid. Gallai unrhyw un a feiddiai dorri'r rheolau orfod wynebu cosb ddifrifol:
.Petai'n cael ei ddal yn dwyn plwm am y trydydd tro bydd cyllell yn cael ei thrywanu drwy gledr ei law dde a'i sodro i winsh (1) hyd at garn y gyllell honno. Bydd yn rhaid iddo aros yno tan y bydd wedi marw neu tan y bydd wedi rhyddhau ei law o'r gyllell. A bydd yn gorfod ildio ei etholfraint o'r mwynglawdd, a phetai ganddo fargen (meer) (2) yn y mwynglawdd bydd yn rhaid iddo ei fforffedu i'r arglwydd.
Deddfau Mwyngloddio, 1391 |
Roedd yn waith caled ac os na lwyddent i wneud unrhyw arian byddai'r mwynwyr yn mynd yn ôl i'w ffermydd.
Geirfa
(1) Adeiladwaith pren ar ben pwll ar gyfer codi'r mwyn i'r wyneb oedd winsh (windlass) .
(2) Y darn oedd pob mwynwyr yn cael i'w weithio yn y mwynglawdd oedd 'meer''.
|