|
Roedd mwynwyr plwm y 18 fed a'r 19 eg ganrif yr un mor annibynnol. Roedd y mwynwr modern yn fwy o gontractwr nag o weithiwr. Roedd yn gweithio ar system fargeinio. Roedd yn rhaid i fwynwyr fod yn drafodwyr da. Byddent yn cytuno â'r asiant i weithio gwythïen am bris penodol y dunnell. Byddai'r ffi'n amrywio gan ddibynnu ar ba mor anodd oedd y gwaith. Roedd mwynwyr hefyd yn bargeinio ar dyllu siafftiau a lefelau gyrru.

Mwynwyr y 19eg ganrif, tua 1870-80
© Archifdy Sir Ddinbych
Yn draddodiadol roedd y mwynwyr yn cymryd risgiau, gan eu bod yn gobeithio bod yn lwcus drwy daro gwythïen eang o blwm. Wrth i'r cronfeydd plwm ddirwyn i ben, profodd y gwaith am dâl rheolaidd yn y pyllau glo yn ormod o demtasiwn. Erbyn diwedd y 19 eg ganrif roedd cwmnïau pwll plwm y Mwynglawdd yn ei chael hi'n anodd i gadw eu gweithwyr profiadol.
" Mae natur eu gwaith yn amlwg yn afiach. Mae eu hymddangosiad yn dynodi cyflwr iechyd amherffaith, yn gyffredinol maent yn llwyd, welw ac yn wan "
Y Parchedig. Richard Warner |
Nid y perygl o beidio â gwneud arian oedd yr unig risg. Gallai cloddio plwm fod yn berygl gwirioneddol i iechyd hefyd. Ychydig iawn o fwynwyr oedd yn byw i weld eu hanner canfed pen-blwydd. Roedd y llwch o'r gwaith drilio yn achosi silicosis, sef clefyd yr ysgyfaint. Gwnaeth y driliau aer cywasgedig newydd a gyflwynwyd yn y 1870au , y sefyllfa'n waeth.
Roedd damweiniau'n gyffredin. Rhwng 1873, pan ddechreuwyd cadw cofnodion, a 1914 pan ddaeth y cloddio i ben, lladdwyd 27 o bobl ym mhyllau plwm y Mwynglawdd.
Y tu mewn i swyddfeydd Cwmni Cloddio Unedig y Mwynglawdd tua 1900.
© Archifdy Sir Ddinbych
|