Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Oes Aur Cloddio

 

Ar ddechrau'r 18 fed ganrif dechreuodd pwll plwm y Mwynglawdd ffynnu.

Roedd y chwilotwyr wedi dysgu sut roedd dod o hyd i'r cronfeydd plwm tanddaearol. Er, nid oedd cloddio dwfn heb ei broblemau. Lleolir gwythiennau plwm mewn calchfaen (1). Mae afonydd tanddaearol yn gysylltiedig â chalchfaen ac felly roedd llifogydd yn y mwyngloddiau bob amser yn broblem. Roedd pwmpio'r dwr hwn allan yn gostus ac yn rhwystr mawr i unrhyw gloddio dwfn am blwm.

Llun o John Wilkinson
John Wilkinson, entrepreneur a dyfeisiwr.


John Wilkinson, yr entrepreneur peniog a oedd wrth wraidd Gwaith Haearn y Bers, oedd y dyn a lwyddodd i ddatrys y broblem yn niwedd y 18 fed ganrif. Peiriannau stêm Wilkinson oedd y gorau eto am gadw'r pyllau plwm yn rhydd o ddwr. Roedd mwyngloddio yn broffidiol unwaith eto. Yn anffodus ni ddywedodd Wilkinson wrth Boulton & Watt ei fod wedi copïo eu peiriannau stêm. Daethant i wybod a bu'n rhaid i Wilkinson dalu iddynt.

Roedd y peiriannau pwmpio hynny yn hanfodol. Ond caeodd y gweithfeydd plwm unwaith eto yn dilyn problemau gyda'r pympiau ac anghydfod ynghylch talu am y peiriannau.

Ym 1845 ffurfiwyd Cwmni Cloddio'r Mwynglawdd gan yr asiantiaid mwyngloddio o Sir y Fflint, John Taylor a'i Feibion. Roeddent yn brofiadol. Roeddent yn sylweddoli bod potensial i byllau plwm y Mwynglawdd. Gwnaethant gadarnhau'r prydlesau mwyngloddio, gosod lefel ddraenio newydd ym Melin y Nant i gael y dwr allan o'r mwyngloddiau a buddsoddi mewn peiriannau a rheilffordd newydd. Ym 1852 roedd plwm yn cael ei gloddio unwaith eto yn y Mwynglawdd.

Daeth y mwynwyr o hyd i gronfeydd newydd o blwm yn ddyfnach o dan ddaear. Roedd yn amser ffyniannus. Roedd John Taylor a'i Feibion wedi cychwyn gyda £30,000 i fuddsoddi yn eu menter fwyngloddio; gwnaed elw o dros £60,000 ym 1864 yn unig.

Llun o Ty Injan a Lloriau Naddu Taylor, tua 1880. © Archifdy Sir Ddinbych
Ty Injan a Lloriau Naddu Taylor, tua 1880.
© Archifdy Sir Ddinbych


Parhaodd yr amseroedd da i'r 1870au, ond roedd problemau ar y gorwel. Dechreuodd prisiau plwm ostwng tra roedd prisiau'r glo i gadw'r peiriannau pwmpio yn codi. Roedd y plwm yn dechrau prinhau. Roedd prisiau Sinc, sef y metel arall a gloddiwyd yn y Mwynglawdd, yn gostwng hefyd. Erbyn diwedd yr 1890au, nid oedd cloddio yn y Mwynglawdd bellach yn gwneud synnwyr economaidd.

Llun o mwynwyr: 'Mae'r cloddio 'ma am blwm yn fusnes lloerig. Pan roedd fy nhad yma roedd y mwynglawdd yn gwneud arian mawr. Nawr maent yn dweud ei fod yn mynd i gau.' Llun o mwynwyr: 'Mae'r cloddio 'ma am blwm yn fusnes lloerig. Pan roedd fy nhad yma roedd y mwynglawdd yn gwneud arian mawr. Nawr maent yn dweud ei fod yn mynd i gau.' Ym 1909 penderfynodd y cwmni cloddio bod y peirannau pwmpio yn rhy ddrud i'w rhedeg. Dechreuodd y mwyngloddiau orlifo. Ym 1914 daeth cloddio am blwm i ben. Gwerthwyd y peiriannau a helpodd yr ychydig o fwynwyr a oedd yn dal yno y perchnogion i achub gweddill y busnes. Roedd yn ddiwedd cyfnod i'r Mwynglawdd.

Geirfa

(1) Mae'r plwm yn rhedeg mewn gwythiennau o dan ddaear. Yn wahanol i lo, m ae gwythiennau plwm, bron yn fertigol yn yr ardal hon ac yn rhedeg ar draws y tirlun o'r gorllewin i'r dwyrain yn fras.

 

 
English
 

Cyswllt i

- Cyflwyniad
- Oes Aur Cloddio
- Mwynwyr y Canol Oesoedd
- Metelau Dwys
- Mwynwyr Modern
- Datguddio'r Mwynglawdd
- Bywyd Mwynwyr - Simon Hughes
- Ty Injan Siafft y Ddôl
- Lle Peryglus
- Fyny a Lawr
- Oriel
- Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint