Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Simon Hughes

 
Llun o Simon Hughes yn Ogof Speedwell, y Mwynglawdd

Simon Hughes yn Ogof Speedwell, y Mwynglawdd, tua 1928
© Archifdy Sir Ddinbych

Ganwyd Simon Hughes ym 1872. Roedd yn byw gydag Ellen ei wraig a naw o'u plant a oroesodd yn New Brighton.

Roedd yn weithiwr medrus ac yn feistr ar nifer o grefftau. Trwsio a chadw holl waith coed y mwynglawdd mewn cyflwr da oedd ei waith. Roedd yn rhaid iddo osod cynhalbyst a phropio daear rydd, gwneud a gosod ysgolion a gosod rheilffyrdd i'r tramiau. Yn ogystal â hynny roedd yn helpu i gynnal y pympiau, y pibellau a'r offer cysylltiedig. Pan roedd ar y cwmni angen dyn ychwanegol roed Simon yn gweithio ar y malwr mwyn.

Fel rheol, roedd Simon Hughes yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos. Roedd yn waith corfforol caled a doedd dim gwyliau â thâl. Roedd ei dâl yn amrywio yn ôl y gwaith a wnâi. Ar ddiwedd ei yrfa yn y mwynglawdd ym 1915 roedd yn ennill pedwar swllt a chwe cheiniog (tua 22c) y dydd, er, roedd ei gyflog weithiau cyn lleied â swllt a dwy geiniog (tua 6c) y dydd.

Mae'n amlwg ei fod yn weithiwr gwerthfawr oherwydd cafodd ei gyflogi gan Gwmni Cloddio Unedig y Mwynglawdd tan y diwedd. Roedd Simon yn ffodus o fedru osgoi'r gwaith y gorfu ei gydweithiwr, William Williams, ei wneud am nifer o fisoedd - glanhau'r briciau o adeiladau'r mwynglawdd a ddymchwelwyd i'w hail-ddefnyddio; glanhaodd bedair mil ar ddeg ohonynt ym mis Tachwedd 1914 am £3 3c yn unig. Ond yn bwysicach na hynny, goroesodd Simon ei yrfa yn y pwll plwm - doedd pawb ddim mor ffodus.

 
English
 

Cyswllt i

- Cyflwyniad
- Oes Aur Cloddio
- Mwynwyr y Canol Oesoedd
- Metelau Dwys
- Mwynwyr Modern
- Datguddio'r Mwynglawdd
- Bywyd Mwynwyr - Simon Hughes
- Ty Injan Siafft y Ddôl
- Lle Peryglus
- Fyny a Lawr
- Oriel
- Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint