Fyny a Lawr

Yr Amseroedd Da a'r Amseroedd Drwg ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd

Ym 1885 roedd pris plwm ar ei isaf. Siaradodd Syr Theodore Martin, cadeirydd Cwmni Pwll Plwm y Mwynglawdd â chyfarfod etholiadol gorlawn:

" Bu'r mwynglawdd hwn yn un cyfoethog iawn, nid i'r rhai a fuddsoddodd eu cyfalaf ynddo yn unig, ond i'r gweithwyr a gyflogwyd yno hefyd. Gwelais i ddechrau'r mwynglawdd, rwyf wedi tystio i'w ddyddiau ffyniannus iawn ac rwyf wedi ei wylio'n rhannol ddirywio, ond dydw i erioed wedi colli fy hyder yn yr hen fwynglawdd da."

Nid Syr Theodore oedd yr optimist cyntaf i fuddsoddi ei arian yn y Mwynglawdd. Roedd y mwyngloddiau yn hen gyfarwydd â dyddiau da a dyddiau drwg.

Llun o mwynwr: 'Os na ddown ni o hyd i wythen arall dda o blwm yn fuan, ni fydd 'na waith i ni yma.' Llun o mwynwr: 'Os na ddown ni o hyd i wythen arall dda o blwm yn fuan, ni fydd 'na waith i ni yma.' Roedd cyfnod y 1860au yn ffyniannus, er, gallai pethau newid yn sydyn. Gallai gostyngiad ym mhris sinc neu blwm fod yn drychinebus.

Ym 1872 gorfu i Gwmni Cloddio Uneb Y Mwynglawdd, a oedd â mwyngloddiau i'r gogledd-ddwyrain o'r Siafft y Ddôl. Mae eu hadroddiadau ar ragolygon y gwaith yn y dyfodol yn cyfleu anobaith. Cafodd Cwmni Cloddio De'r Mwynglawdd hyd yn oed lai o lwyddiant; deng mlynedd o fuddsoddi a dim ond ychydig o dunelli o fwyn i ddangos amdano.

Cyswllt i gweler Pyllau Plwm y Mwynglawdd o'r Mwynglawdd Newydd tua'r gogledd-orllewin.

Ym 1887 roedd Cwmni Cloddio'r Mwynglawdd yn wynebu dewisiadau anodd. Roedd sinc wedi bod yn ffynhonnell dda o elw pan roedd gostyngiad yng ngwerthiant plwm.

" Mae ystyried pa gamau i'w cymryd i adfer ffyniant y mwynglawdd yn anghenraid anhepgor . Oherwydd y trefniant sydd gan y Cwmnïau Mwyndoddi ymhlith ei gilydd gallant bennu pris blend (sinc). Maent wedi llwyddo i wneud hynny i'r fath raddau fel eu bônt wedi ei ostwng i ffigwr sy'n is, yn achos ein mwynau, na'r pris cynhyrchu gwirioneddol."

Adroddiad Blynyddol Cwmni Cloddio Y Mwynglawdd, 1887

Daethpwyd ag ymgynghorwyr draw o'r Almaen. Roeddent yn argymell agor mwyndoddwr yn y Mwynglawdd, ychydig i fyny'r rhiw o Siafft y Ddôl. Byddai hynny yn gwneud i ffwrdd â'r rhyngfasnachwyr. Siaradwyd am elw o 10% y flwyddyn. Agorodd y mwyndoddwr ym 1888, ond ni wnaed unrhyw elw a chaeodd o fewn pum mlynedd.

Gwnaed arian yn y Mwynglawdd, ond cafodd llawer ei golli. Dyna oedd hanes Pyllau Plwm y Mwynglawdd.

yn ôl i'r brig