Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Dewch i ddarganfod hanes mwynwyr plwm y Mwynglawdd, y pentref a enwyd ar ôl y mwyn oddi tano, yng nghanolfan ymwelwyr Pyllau Plwm y Mwynglawdd, ac archwilio gweddillion y gwaith prosesu plwm o’r 19eg ganrif yn y fan lle’r oedd yn gweithio.

Mae’r pyllau plwm mewn parc gwledig, pum milltir i’r gorllewin o Wrecsam, islaw Mynydd Mwynglawdd ac yn fan da i gychwyn cerdded Llwybr Clywedog neu yrru i Ben Draw’r Byd.

Teithiau tywysedig ar gyfer grwpiau ar gais. Cysylltwch â Chanolfan Dreftadaeth y Bers ar 01978 318 970 i gael manylion.

Gweithdai hanes a gwyddoniaeth ysgol ar gyfer disgyblion CA2 - CA3. I gael manylion, cysylltwch â museumeducation@wrexham.gov.uk.

I gael gwybod beth sy'n digwydd nawr ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd, ewch i'n tudalen Arddanagosfeydd a Digwyddiadau.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl: Sale mynediad agored. Gallwch weld y tyˆ injan a'r gweddillion archeolegol unrhyw br yd.

Cyfarwyddiadau

Gadewch yr A483 a chymryd yr A525 wedi'i harwyddo am Ruthun. Yng Nghoedpoeth, gyferbyn â thafarn y Five Crosses cymerwch y B5426 (Ffordd Plas y Mwynglawdd) wedi'i harwyddo Y Mwynglawdd a dilynwch y ffordd hon am ychydig dros filltir, hyd nes i chi gyrraedd mynedfa'r safle a'r maes parcio ar y dde. Edrychwch am yr arwyddion brown gyda Pyllau Plwm arnynt.

Map Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Map Pyllau Plwm y Mwynglawdd - fersiwn PDF 3.6Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Fap Treftadaeth Y Mwynglawdd

yn ôl i'r brig